Neidio i'r prif gynnwy

Portffolio newydd ar y gweill i drawsnewid meddyginiaethau

9 Mehefin 2022

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi lansio'r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) i ddarparu dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru.

Mae'r portffolio yn dwyn ynghyd y rhaglenni a'r prosiectau i wneud rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau ym mhobman yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn effeithiol, drwy ddull digidol.

Yn dilyn adolygiad annibynnol o ragnodi electronig yng Nghymru, nododd Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ei huchelgais ar gyfer cynllun meddyginiaethau digidol cynhwysfawr i Gymru ,

“Rydym am wneud yn siŵr bod gwasanaethau’n darparu’r canlyniadau gorau i ddinasyddion, a’u bod yn gweithredu’n seiliedig ar ddymuniadau dinasyddion a darparwyr gwasanaethau o ran defnyddio a rheoli’r gwasanaethau hynny... Gyda chymorth platfform digidol, bydd y rhaglen hon yn trawsnewid rhagnodi yng Nghymru".

Mae'r portffolio yn cydlynu pedwar maes gwaith gwahanol, ac mae gan bob un ohonynt gysylltiadau â'i gilydd:

  • Gwasanaeth Rhagnodi Electronig Gofal Sylfaenol - Llofnodi a throsglwyddo presgripsiynau'n electronig o feddygon teulu a rhagnodwyr anfeddygol i'r fferyllfa gymunedol neu ddosbarthwr dyfeisiau o ddewis yr unigolyn.
  • Rhaglen Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig - Gweithredu e-Ragnodi a rhoi meddyginiaethau (ePMA) ar draws holl ysbytai Cymru. Anfon presgripsiynau cleifion allanol i fferyllfa o ddewis yr unigolyn.
  • Mynediad i Gleifion Defnyddio Ap GIG Cymru i rannu a chasglu gwybodaeth am feddyginiaethau, archebu presgripsiynau rheolaidd ac enwebu fferyllfa o ddewis yr unigolyn.
  • Cofnod Meddyginiaethau a Rennir Creu un cofnod o feddyginiaethau a rennir ar gyfer pob claf yng Nghymru fel bod yr holl wybodaeth mewn un lle.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar y dudalen DMTP, neu gallwch gofrestru ar gyfer cylchlythyr DMTP. Mae’r Athro Hamish Laing, Uwch Berchennog Cyfrifol y Portffolio, wedi gwneud fideo byr hefyd yn esbonio'r portffolio.