Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio yn mynd yn ddigidol yng Ngogledd Cymru

17 Mawrth 2022

Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) wedi lansio ym mwrdd iechyd mwyaf Cymru, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).  Mae’r system ddigidol yn trawsnewid y ffordd y mae nyrsys yn cofnodi, storio a chael mynediad at wybodaeth am gleifion.

Gall nyrsys ddefnyddio llechi wrth erchwyn gwely claf i gofnodi gwybodaeth a’i storio’n ddiogel yng Nghofnod Gofal Nyrsio Cymru. Mae’n golygu bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol sydd yn gyfrifol am ofal claf yn gallu cael mynediad at yr un wybodaeth ddiweddaraf.

Cyn y lansiad, siaradon ni â Jane Brady, Prif Swyddog Gwybodeg Nyrsio BIPBC. Dywedodd ei fod yn gyfnod cyffrous i nyrsys yng Ngogledd Cymru:

“Mae’r nyrsys yn awyddus dros ben i gael gafael ar iPad, ac i ddechrau gwneud y gwaith papur yn ddigidol yn lle ceisio dod o hyd i bentyrrau o bapur, ac yna chwilota drwy’r nodiadau achos i ddod o hyd i’r wybodaeth y maent yn chwilio amdani.”

Mae fideo o Jane ar gael yma:  https://www.youtube.com/watch?v=EE85GyXplNg