Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn penodi Helen Thomas yn Brif Swyddog Gweithredol

11 Mai 2021

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch o gyhoeddi bod Helen Thomas wedi’i phenodi’n Brif Swyddog Gweithredol.

Mae hi'n arwain yr Awdurdod Iechyd Arbennig newydd a ffurfiwyd i ddatblygu trawsnewid digidol a darparu'r gwasanaethau technoleg a data cenedlaethol sydd eu hangen ar gleifion a chlinigwyr. 

Mae Helen Thomas wedi gweithio yn GIG Cymru ers 30 mlynedd ac mae wedi dal sawl rôl arwain allweddol ym maes data a gwybodeg. Yn ei rôl ddiweddaraf fel Cyfarwyddwr dros dro Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol dros dro Iechyd a Gofal Digidol Cymru, arweiniodd yr ymateb digidol trawiadol i bandemig Covid-19.

Dywedodd Bob Hudson, Cadeirydd dros dro Iechyd a Gofal Digidol Cymru: “Rydym yn falch iawn bod Helen Thomas wedi’i phenodi’n Brif Swyddog Gweithredol, yn dilyn proses dethol a gwerthuso drylwyr. Ar adeg hynod o bwysig, bydd ei phrofiad a'i hymrwymiad yn hanfodol i adeiladu ar gyflymder y newid digidol mewn iechyd a gofal sy'n cael ei yrru gan y pandemig.

“Mae’r byd digidol wedi bod wrth wraidd ymateb GIG Cymru i COVID-19, gan ddarparu technoleg newydd sydd wedi helpu i achub bywydau, ac rydym yn diolch i Helen am ei harweinyddiaeth a’i hymroddiad yn ystod y cyfnod hwn. Bellach mae gennym gyfle gwych i symud ymlaen a darparu’r genhedlaeth nesaf o wasanaethau iechyd a gofal digidol i Gymru.”

Cyn ei phenodi'n Brif Swyddog Gweithredol dros dro, Helen Thomas oedd Cyfarwyddwr Gwybodaeth Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, gan arwain ar ddatblygiad yr Adnodd Data Cenedlaethol newydd – yr NDR.  Mae hi hefyd wedi dal rôl Cyfarwyddwr Gwybodaeth Cynorthwyol ym Mwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, lle roedd ganddi gyfrifoldeb am ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen i werthuso’r modd y darperir gwasanaethau ac i gefnogi gwella a thrawsnewid gwasanaethau. 

Meddai Helen Thomas: “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Brif Swyddog Gweithredol ac mae’n fraint cael y cyfle i arwain sefydliad newydd a ffocws o’r newydd ar ddarparu gwasanaethau gofal iechyd digidol.

“Yn awr, yn fwy nag erioed, mae gennym y gallu i ddefnyddio’r byd digidol i drawsnewid iechyd a gofal i bobl Cymru. Dyma amser i adeiladu ar y gwaith o fabwysiadu gwasanaethau digidol yn gyflym a ddigwyddodd yn ystod y pandemig ac mae'n gyfle enfawr i bob un ohonom.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o sefydliad a all gael effaith sylweddol a sefydliad sy’n gwneud hynny trwy weithio ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, arbenigwyr technoleg a phobl Cymru.