Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog gan addo cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog

23 Mehefin 2022

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n dangos ei ymrwymiad i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog.  

Llofnododd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol DHCW, gyfamod a sefydlwyd gan lywodraeth y DU yn gynharach eleni i ddatblygu perthynas DHCW â'r gymuned filwrol a helpu i adeiladu mwy o lwybrau gyrfa i bersonél y lluoedd arfog sy'n ail-ymuno â bywyd sifil. 

Dywedodd Sarah Brooks, Arweinydd Datblygu Sefydliadol, Diwylliant ac Ymgysylltu: 

"Rydym yn cydnabod y gwerth y gall personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol ei gynnig i'n gweithlu. Wrth symud ymlaen, byddwn yn adolygu ein harferion recriwtio, gan ddatblygu ein perthynas â chymuned y Lluoedd Arfog i hyrwyddo DHCW fel Sefydliad milwrol-gyfeillgar." 

I nodi Wythnos y Lluoedd Arfog, siaradodd David Rees, Cyn-filwr a bellach yn hwylusydd Dysgu a Datblygu yn DHCW am ei gyfnod yn y Fyddin Brydeinig a sut mae'r sgiliau a ddysgodd wedi trosglwyddo i'w rôl bresennol, 

"Yn 2007 ar ôl gadael y Fyddin roeddwn i'n cael trafferth addasu i fywyd sifil, doedd gen i ddim syniad beth roeddwn i wir eisiau ei wneud gyda fy mywyd. Yn amlwg, mae moeseg gwaith sifil yn wahanol, ac roeddwn i’n cael trafferth dod o hyd i unrhyw beth yr oeddwn yn ei fwynhau'n fawr. Felly, gan fy mod yn hyfforddwr yn y lluoedd arfog, penderfynais gofrestru ar gwrs prifysgol i ennill fy nghymwysterau addysgu. Credaf y gall y gwaith caled a wnaethoch, p’un a yw yn y Lluoedd Arfog neu mewn bywyd sifil, fod yn werth chweil ac mae wedi fy ngalluogi heddiw i ddod yn aelod allweddol o fewn DHCW yn Hwylusydd Dysgu a Datblygu." 

 

  David, ar y chwith yn ystod ei wasanaeth, ac yn awr mewn bywyd sifil gyda'i bartner.