Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant Ymgynghori Fideo am ddim ar gael ar gyfer clinigwyr gofal sylfaenol

28 Ionawr 2022

Mae hyfforddiant am ddim ar gyfer Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru ar gael i feddygon teulu, fferyllwyr, deintyddion ac optegwyr sy'n dymuno darparu ymgynghoriadau fideo diogel i'w cleifion.
 
Mae'r hyfforddiant ar gael mewn cydweithrediad rhwng Tîm Gofal Sylfaenol Iechyd a Gofal Digidol Cymru a TEC Cymru ac mae'n cymryd tua 45 munud. Gall clinigwyr naill ai archebu sesiwn fyw neu gwblhau gweminar unrhyw adeg.
 
Mae Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru wedi cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru i gynnig gwasanaethau gofal iechyd mewn ffordd ddiogel i weld cleifion drwy apwyntiad fideo. Y cwbl sydd ei angen ar bob practis i ddefnyddio'r gwasanaeth yw:
 

  • Cyfrifiadur gyda mynediad i we-gamera a chlustffonau.
  • Llechen neu ffôn symudol gyda mynediad i gamera.
  • Y fersiwn diweddaraf o Microsoft Edge, Google Chrome neu Apple Safari.
  • Aelod o'ch practis i gymryd cyfrifoldeb am sefydlu/tynnu cydweithwyr o fewn y system ac i 'reoli' eich ystafell aros rithwir. Byddant yn cael eu galw'n 'uwch-ddefnyddiwr' a bydd gofyn iddynt fynychu hyfforddiant ar yr un pryd/cyn aelodau eraill o'ch tîm.

TEC Cymru: Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru | Digital Health Wales