Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith cynnal a chadw hanfodol ar gyfer gwasanaethau TG GIG Cymru – rhwng 26 a 31 Awst

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gwneud gwaith uwchraddio a chynnal a chadw TG hanfodol rhwng 26 a 31 Awst, a allai effeithio ar y data sydd ar gael ar ddangosfwrdd data COVID-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gall y gwaith sy'n cael ei wneud amharu ar lif data a gall y niferoedd sydd ar y dangosfwrdd fod yn is na'r arfer yn ystod y cyfnod hwn.

Am y cyfnod yn syth ar ôl 31 Awst, mae’n bosibl y bydd y niferoedd yn uwch na'r arfer wrth i ddata gael eu hychwanegu'n ôl-weithredol.  

Mae gwaith cynnal a chadw ac uwchraddio systemau TG a seilwaith technegol yn rhan hanfodol o'n rôl i gadw systemau GIG Cymru i weithredu'n ddiogel ac yn effeithlon. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.