Neidio i'r prif gynnwy

GIG Cymru yn lansio canolfan arloesi Microsoft bwrpasol ar gyfer staff

19 Ebrill 2022

Mae Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru wedi'i lansio i sbarduno arloesedd digidol creadigol ar draws GIG Cymru a rhoi cymorth i staff sy'n defnyddio meddalwedd Microsoft 365 (M365).

Wedi'i letya o fewn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, nod y Ganolfan Ragoriaeth yw hybu prosiectau gwella llwyddiannus a chynaliadwy ar draws GIG Cymru drwy rannu arferion gorau, datblygu gwybodaeth, cefnogi syniadau newydd, a helpu i roi datrysiadau M365 ar waith yn llwyddiannus ar draws byrddau iechyd.

Mae'r Ganolfan Ragoriaeth yn adeiladu ar waith tîm presennol rhaglen M365, sydd wedi arwain y gwaith o weithredu a datblygu M365 ers symud o gontractau lluosog i un contract ar gyfer GIG Cymru gyfan yn 2019.

Arbedodd y cytundeb nodedig arbediad £11.7 miliwn dros y cyfnod 3 blynedd, a mwy o allu digidol i dros 100,000 o aelodau staff mewn 13 o sefydliadau.

Ochr yn ochr ag offer mwy cyfarwydd fel Teams, Word a SharePoint, mae'r Ganolfan Ragoriaeth hefyd yn cefnogi cydweithwyr i archwilio Microsoft Power Platform, sy'n cynnwys Power Apps, Power BI a Power Automate. Mae'n caniatáu i staff adeiladu apiau, cynorthwyo cipio data, awtomeiddio prosesau, ac adrodd ar wybodaeth fusnes i fodloni gofynion clinigol a rheoli.

Dywedodd Damian Mayer, Pennaeth Dros Dro'r Ganolfan Ragoriaeth: "Rydym yn dechrau ar gyfnod newydd o bosibiliadau gydag M365 a'r hyn y gall ei offer ei wneud i gydweithwyr GIG Cymru.

"Gwnaeth y tîm rhaglen M365 blaenorol waith rhyfeddol o ymgorffori'r offer a datblygu'r fframweithiau o'u cwmpas. Bydd y Ganolfan Ragoriaeth yn parhau â'r gwaith hwnnw ac yn parhau i arloesi ac archwilio cyfleoedd i wella, er budd cydweithwyr a dinasyddion Cymru.

"Rydym yn annog pawb sydd â heriau clinigol neu weithredol y credant y gellir eu datrys drwy atebion digidol i ymuno â'r rhwydwaith neu i gysylltu â ni."

Mae Rhwydwaith Hyrwyddwyr M365 ar gael i holl staff GIG Cymru sydd â diddordeb mewn arloesi M365, gan gynnig cyfleoedd hyfforddi a rhwydweithio. Gwnewch gais i ymuno yma.