Neidio i'r prif gynnwy

Desg Wasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cipio'r drydedd wobr yng Ngwobrau SDI

23 Mawrth 2022

Mae Desg Wasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) wedi cyrraedd 3ydd safle yng Ngwobrau SDI a gydnabyddir yn fyd-eang a gynhelir ar 22 Mawrth 2022 yn Birmingham.

Roedd ein Desg Wasanaeth wedi cyrraedd rownd derfynol Wobr Desg Wasanaeth Orau yn y categori Menter Fawr gyda Computacenter NGSD a Capgemini.

Mae'r SDI yn cynrychioli miloedd o gwmnïau a gweithwyr desg wasanaeth proffesiynol mewn dros 150 o wledydd. Mae gwobrau SDI yn canu clodydd timau gwasanaeth a chymorth TG sy'n cyflawni’r lefelau uchaf o ragoriaeth a gwasanaeth i bob cwsmer.

Mae ein Desg Wasanaeth yn gwasanaethu GIG Cymru i gyd ac yn gweithredu fel un man cyswllt rhwng gwasanaethau desg lleol a thimau cymorth cenedlaethol. Mae’n darparu canolbwynt ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau a gwneud ceisiadau gwasanaeth.