Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Blwyddyn o system nyrsio ddigidol Cymru, Cofnod Gofal Nyrsio Cymru

22 Ebrill 2022

Mae ychydig dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i Gofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) gael ei gyflwyno gyntaf ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe yng ngwanwyn 2021. Ers hynny, mae system nyrsio ddigidol GIG Cymru wedi mynd o nerth i nerth wrth iddi gael ei chyflwyno'n gyflym ledled y wlad.

Mae’r WNCR yn system ddigidol sy’n trawsnewid y ffordd y mae nyrsys yn cofnodi, storio a chael mynediad at wybodaeth am gleifion. Yn hytrach na gwneud nodiadau ar bapur wrth ochr gwely claf, mae nyrsys yn defnyddio cyfrifiaduron llechi i gasglu gwybodaeth a’i storio yn ddiogel yn yr WNCR, fel bod gan ofalwyr fynediad at yr un wybodaeth gyfredol ar hyd taith gofal iechyd claf.

Dywedodd Claire Bevan, yr Uwch Swyddog Cyfrifol, fod hwn yn 'gyfnod pwysig mewn hanes nyrsio o ran  symud o ddefnyddio papur i ddigidol' a mynegodd Fran Beadle, Prif Swyddog Gwybodeg Nyrsio Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ei balchder yng nghynnydd eang y prosiect.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi mynd y tu hwnt i’n disgwyliadau gan ddangos sut mae nyrsys nid yn unig wedi addasu’n llwyddiannus i ffyrdd newydd o weithio ond hefyd wedi defnyddio’r data i gefnogi a gwella gofal cleifion a dinasyddion ledled Cymru. Rydym yn falch iawn.”

Mae nyrsys wedi canmol y system, gan ddweud ei bod yn ‘amhrisiadwy' ac mae Mandy Rayani - Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dweud nad yw hi'n gwybod sut y gwnaethon nhw ymdopi hebddo.

Ychwanegodd Greg Dix, Cyfarwyddwr Nyrsio Gweithredol Cwm Taf Morganwwg ei fod wedi trawsnewid pethau i'r staff wrth iddo ryddhau amser iddynt ofalu, ond hefyd o ran lefel y sicrwydd y mae'r system yn ei ddarparu at ddibenion archwilio.

Mae’r fideo isod yn sôn mwy am ei fanteision heb eu hail sy’n cynnwys sylwebaeth gan gydweithwyr ar draws GIG Cymru. Diolch i bawb am roi o'u hamser i gymryd rhan ynddo.

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn anelu at gyflwyno’r WNCR i'r byrddau iechyd sy'n weddill, sef Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro erbyn diwedd 2022 ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghylchlythyr Nyrsio Digidol GIG Cymru.