Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddiad masnachol: partner newydd i helpu i sbarduno rhaglen trawsnewid Digidol GIG Cymru

12 Tachwedd 2021

Sefydlwyd y rhaglen Gwasanaethau Digidol i Gleifion a'r Cyhoedd (DSPP) gan Lywodraeth Cymru i helpu i gydlynu cyflwyno datrysiadau digidol a chymwysiadau iechyd a gofal yn gyflym i bobl Cymru. Mae'r rhaglen yn cael ei rhedeg gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae ymarfer caffael ar gyfer penodi partner datblygu technoleg wedi'i gwblhau yr wythnos hon ac mae'r contractau wedi'u dyfarnu i Kainos Group. Bydd Kainos yn sefydlu'r dechnoleg sy'n ofynnol i gefnogi cyflawni ein gweledigaeth trawsnewid digidol, gan gynnwys datblygu Ap GIG Cymru. Bydd Ap GIG Cymru yn gymhwysiad gofal iechyd sy'n grymuso pobl yng Nghymru i chwarae rhan weithredol wrth reoli eu hiechyd a'u gofal, trwy eu tabledi a'u ffonau clyfar.

Mae penodiad Kainos yn nodi dechrau rhaglen gyflawni a fydd yn cefnogi datblygiad y genhedlaeth nesaf o wasanaethau iechyd a gofal digidol yng Nghymru.  Bydd y rhaglen yn caniatáu i gymwysiadau iechyd a gofal cyfredol a rhai yn y dyfodol weithio gyda'i gilydd a defnyddio gwasanaethau sylfaenol cydgysylltiedig a diogel i gyflawni eu swyddogaeth.

Dywedodd Ifan Evans, Cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid Llywodraeth Cymru a noddwr rhaglen DSPP gyda Llywodraeth Cymru: “Bydd y rhaglen hon yn ein helpu i ddatgloi’r potensial i wasanaethau digidol rymuso dinasyddion i chwarae rhan fwy gweithredol yn eu hiechyd a’u gofal. 

“Ers dechrau’r pandemig, mae’r defnydd o dechnoleg iechyd wedi cyflymu. Cyflwyno'r rhaglen hon yw'r cam nesaf i wneud gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy hygyrch trwy ein ffonau a'n llechi.  Ar ddiwedd y rhaglen hon, bydd pobl sy'n byw yng Nghymru yn gallu rheoli data iechyd a gofal personol mewn ffordd sy'n reddfol ac effeithlon, boed hynny'n cofnodi data gofal personol, cael mynediad at ymgynghoriadau fideo, gwylio a rheoli cynlluniau gofal neu ddarparu adborth i’w gofalwyr.”

Dywedodd Huw George, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau a Chyllid Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i fanteisio ar yr arbenigedd a'r cyfleoedd masnachol helaeth sy’n rhan o farchnad gwasanaethau iechyd a gofal digidol.  Nid ydym am ddyblygu’r ddarpariaeth, rydym am adeiladu ar yr arbenigedd masnachol presennol mewn ffordd sy'n ddiogel ac y gellir ei hymestyn.  Yn bennaf oll, mae angen cyflwyno gwasanaethau digidol i bobl Cymru mewn ffordd sy'n ddiogel, wedi'i hegluro'n glir ac yn hawdd ei deall a'i defnyddio.

Dywedodd Dr Sally Lewis, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth: “Yn ddiweddar, rydym wedi gweld sut y gall technoleg fod yn hynod fuddiol i gleifion. Bydd y rhaglen hon yn caniatáu inni gydlynu cyflwyno mentrau digidol presennol megis ymgynghoriadau clinigol o bell, yn ogystal â datblygu cymwysiadau newydd lle mae angen y rhain. Mae hon yn rhaglen gyffrous ac uchelgeisiol a fydd yn ein helpu i roi'r offer digidol mwyaf diweddar i bobl yng Nghymru, a defnyddio eu data iechyd personol yn well.

“Mae’r potensial yn enfawr a bydd yn rhoi ffordd fodern i bobl Cymru ryngweithio â gwasanaethau iechyd, yn debyg i wasanaethau bancio a theithio ar-lein.”