Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddwr Cyllid Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ennill Arweinydd Cyllid y Flwyddyn mewn gwobrau cenedlaethol

24 Mehefin 2022

Enillodd Claire Osmundsen-Little, Cyfarwyddwr Cyllid a Dirprwy Brif Weithredwr Iechyd a Gofal Digidol Cymru deitl ‘Arweinydd Cyllid y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Swyddogaeth Cyllid Digidol.

 

Mae Gwobrau Swyddogaeth Cyllid Digidol yn cydnabod gwaith caled timau arloesol a’u partneriaid technoleg. Aeth Claire i’r seremoni wobrwyo yn Llundain gydag aelodau o’i thîm, a dywedodd,

“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy enwi’n Arweinydd Cyllid y Flwyddyn – prin fod angen dweud na allwn fod wedi gwneud hynny heb y tîm gwych yr wyf yn ei arwain ac rwy’n ddiolchgar iawn iddynt i gyd.”

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Generation CFO, sef sefydliad sy’n dathlu’r unigolion a’r timau yn y diwydiant cyllid a chyfrifyddu sy’n defnyddio technoleg ddigidol i helpu i wella eu busnes a’u gyrfaoedd eu hunain.