March 2020
Medi 2020
Buddsoddiad technoleg £13 miliwn i gleifion gofal dwys GIG Cymru 

Bydd ysbytai yng Nghymru yn manteisio ar system fonitro ddigidol uwch-dechnoleg ar gyfer pobl sy'n ddifrifol wael mewn unedau gofal dwys. 
 
Yn dilyn addewid gan Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i gyflymu gwelliannau digidol ar gyfer gofal critigol, mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi arwyddo contract gwerth £13 miliwn gyda'r cyflenwr ASCOM.  
 
Mae'r cytundeb saith mlynedd ar gyfer meddalwedd Digistat ASCOM yn darparu gwasanaeth wedi'i reoli a phlatfform technegol i ddatblygu System Gwybodaeth Gofal Dwys Cymru Gyfan.  
Mae Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd a'r Rhwydwaith Gofal Critigol a Thrawma yn darparu'r cyllid. 
 
Bydd arloesi digidol yn trawsnewid gofal critigol trwy awtomeiddio'r broses o gasglu data o'r monitorau a'r dyfeisiau soffistigedig a ddefnyddir i roi cymorth i gleifion sydd â salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd.  
 
Gyda phwysau cynyddol ar wasanaethau gofal dwys, bydd lleihau'r baich gweinyddol ar staff GIG Cymru yn rhyddhau mwy o amser ar gyfer gofal cleifion. Mae dros 10,000 o bobl yn derbyn gofal critigol yn ysbytai Cymru bob blwyddyn. 
 
Ar hyn o bryd, yn bennaf, mae'n ofynnol i staff yn 14 Uned Gofal Dwys Cymru, sydd â chyfanswm o 198 gwely, lenwi siartiau papur manwl i gofnodi arwyddion bywyd hanfodol.  
Bydd awtomeiddio yn sicrhau bod gwybodaeth amser real ar gael ar draws ystod o ddyfeisiau, gan ffurfio rhan o gofnod digidol y claf, gan symleiddio prosesau gofal. Bydd integreiddio â systemau GIG Cymru yn galluogi staff gofal dwys i wneud y canlynol: 
  • Cofnodi asesiadau cleifion yn electronig 
  • Rheoli presgripsiynau a rhoi cyffuriau wrth wely claf 
  • Cysylltu ag offer wrth wely claf i gofnodi arwyddion hanfodol a chydbwysedd hylif 
  • Cyfrifo sgoriau aciwtedd claf
  • Rheoli heintiau yn well
  • Rheoli cynlluniau gofal dyddiol 
  • Creu adroddiadau ar ganlyniadau ac amcanion adran 
  • Cefnogi anghenion archwilio ac ymchwil cenedlaethol 
Bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei chasglu mewn cronfa ddata ddeinamig, y gellir ei defnyddio hefyd fel meincnod yn erbyn systemau gofal iechyd eraill a darparu platfform ar gyfer ymchwilio i welliannau mewn gofal beunyddiol sy'n cael eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial, a'u gweithredu o bosibl. 
 
Dywedodd Mr Gething: "Mae ein gwasanaethau gofal dwys yng Nghymru yn darparu gwasanaethau eithriadol gan helpu pobl pan fyddant yn ddifrifol wael. Bydd cyflwyno'r dechnoleg arloesol hon yn gwella'r gofal y mae cleifion yn ei dderbyn ac yn caniatáu i feddygon a nyrsys dreulio cymaint o amser â phosibl yn gofalu am gleifion. Mae defnyddio technoleg i ddarparu GIG cynaliadwy yn rhan allweddol o Cymru Iachach, ein strategaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru." 
 
Dywedodd yr Athro Tamas Szakmany, arweinydd clinigol cenedlaethol ac ymgynghorydd yn Ysbyty Brenhinol Gwent: "Bydd y system newydd yn gwneud bywyd staff gofal critigol rheng flaen yn haws trwy leihau gwastraff, dyblygu a gwallau posibl.  Bydd yn ein galluogi i weithio'n ddirwystr ar draws ffiniau sefydliadol, i rannu arferion da ac i weithredu newid sy'n cael ei yrru gan dystiolaeth yn gyflym." 
 
Dywedodd Geraint Walker, arweinydd nyrsio cenedlaethol a nyrs staff yn Ysbyty Treforys:  "Bydd yn ein galluogi ni fel nyrsys i reoli gofal cleifion yn fwy effeithlon a bydd, yn ei dro, yn ein helpu i wella'r gofal rydym yn ei ddarparu." 
 
Dywedodd Helen Thomas, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: "Rydym yn falch iawn o gydweithio yn y broses o ddarparu a gweithredu'r system newydd gyffrous hon, a fydd yn helpu i gryfhau darpariaeth gofal dwys yng Nghymru."  
 
Ysbyty Athrofaol y Grange, a fydd yn gwasanaethu ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, fydd y cyntaf i fabwysiadu'r system newydd yn haf 2021. Yna bydd y broses gyflwyno fesul cam yn dilyn i holl unedau gofal dwys GIG Cymru. 
Ffarwel i Wendy Dearing, Pennaeth y Gweithlu

Llongyfarchiadau i'r Athro Wendy Dearing ar ei phenodiad yn Bennaeth newydd y Sefydliad
Rheolaeth ac Iechyd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant.  Ar hyn o bryd, mae Wendy yn bennaeth y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS), swydd y mae wedi'i dal am wyth mlynedd.
 
Roedd ganddi ran allweddol wrth ddatblygu Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru, partneriaeth strategol rhwng NWIS a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant. Fel cyd-arweinydd ar gyfer Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru, creodd a gweithredodd y cymwysterau Prentisiaethau Gwybodeg Iechyd, sy'n cynnwys prentisiaethau lefel 3, 4 a gradd TGCh yn ogystal â chreu cyfleodd ar gyfer staff NWIS i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus trwy Brifysgol y Drindod Dewi Sant yn cysylltu diwydiant a'r byd academaidd. Mae wedi chwarae rhan allweddol yn Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu Gwybodeg Iechyd.
Crynodebau ymgynghori digidol ar gyfer fferyllfeydd cymunedol i feddygon teulu bellach yn fyw ledled Cymru

Mae'r cymhwysiad Choose Pharmacy yn darparu mynediad i borth diogel ar y we i fferyllfeydd cymunedol sy'n eu galluogi i gofnodi'n electronig ystod o ymgynghoriadau ar gyfer gwasanaethau ychwanegol yn y fferyllfa.
 
Ar hyn o bryd, mae'r holl fodiwlau gwasanaeth yn y cymhwysiad Choose Pharmacy, ar wahân i Atal Cenhedlu Brys, yn cynnwys swyddogaethau i gynhyrchu crynodebau ymgynghori. Arferai'r crynodebau hyn gael eu hanfon at bractisiau meddygon teulu ar bapur i sicrhau bod yr holl wybodaeth glinigol berthnasol yn cael eu cyfleu i feddyg teulu'r claf. Mae galluogi'r swyddogaeth e-Grynodebau yn golygu y gall y crynodeb ymgynghori gael ei anfon at feddygon teulu trwy Borth Cyfathrebu Clinigol Cymru.
 
Mae anfon gwybodaeth ymgynghori cleifion Choose Pharmacy yn ddigidol i feddygon teulu yn fwy diogel, cyfrinachol, cyflym, olrheiniadwy na'r broses flaenorol ar bapur. Cwblhawyd cyflwyno e-Grynodebau y modiwl CAS yn genedlaethol ddiwedd mis Mai eleni, a bellach mae pob meddyg teulu ledled Cymru yn derbyn crynodebau ymgynghori yn electronig.
 
Ers ei gyflwyno ddiwedd mis Mai, mae 20,794 o grynodebau ymgynghori electronig wedi'u hanfon o'r cymhwysiad Choose Pharmacy at bractisiau meddygon teulu cleifion trwy Borth Gweinyddu Cleifion Cymru, gyda dros 99% o'r e-Grynodebau hyn wedi'u prosesu gan bractisiau meddygon teulu hyd yn hyn.
 
Bydd NWIS yn parhau i fonitro a chefnogi'r gwasanaeth a'r gobaith yw y bydd y swyddogaeth yn cael ei hymestyn i wasanaethau Choose Pharmacy eraill cyn diwedd y flwyddyn.
Fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru i gael Microsoft 365

Mae cyflwyno Office 365, gan gynnwys rhai elfennau o Microsoft Teams, wedi dechrau mewn fferyllfeydd ledled Cymru. 
 
Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, am £18.3 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer fferyllfeydd yng Nghymru, gan gydnabod y rôl hanfodol y mae fferyllfeydd cymunedol yn ei chwarae yn ein cymunedau. 
 
 Mae 3,000 o fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol yn cael mynediad at e-byst, negeseuon gwib y GIG a rhai nodweddion Microsoft Teams sydd ar gael trwy Microsoft 365. 
NWIS ar restr fer ar gyfer tair Gwobr Diwydiant TG Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain

Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi bod NWIS ar restr fer tair Gwobr Diwydiant TG Cymdeithas
Cyfrifiaduron Prydain.
 
Seremoni wobrwyo Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain, a fydd yn cael ei chynnal fel digwyddiad rhithwir ym mis Medi eleni, yw'r gydnabyddiaeth flynyddol fwyaf arwyddocaol o ragoriaeth yn y sector technoleg.
 
Dywedodd ein Cyfarwyddwr Dros Dro, Helen Thomas: "Rydym wrth ein bodd ein bod ar restr fer tri chategori yng Ngwobrau TG y DU eleni. Nid yn unig y mae'n cydnabod gwaith caled iawn pob aelod o'n staff i ddarparu gwasanaethau digidol rhagorol i GIG Cymru, ond hefyd bod hwn yn lle arbennig i weithio."
 
Am ragor o wybodaeth ar y categorïau a'r rhai sydd yn y rownd derfynol, cliciwch yma.

Prosiect dogfennaeth nyrsio ar restr fer gwobrau Nursing Times

Llongyfarchiadau i'r holl nyrsys ac aelodau'r tîm a oedd yn rhan o brosiect GIG Cymru i drawsnewid dogfennaeth nyrsio. Mae'r prosiect, sy'n dod â'r byd digidol i gofnodion nyrsio, ar restr fer Gwobr Nursing Times yn y categori 'Data a Thechnoleg'.
"Mae wedi rhoi hyder i mi yn fy ngallu ac yn y sefydliad," Ben, un o'n prentisiaid yn dweud wrthon ni am fywyd yn gweithio gartref.

Yn ddiweddar, llwyddon ni i gael sgwrs â Ben Atkins, y siaradon ni ag e ddiwethaf ym mis Ionawr 2019, am fywyd yn gweithio i NWIS wrth astudio am ei radd ddigidol. Ers hynny, mae Ben wedi newid rôl ac wedi symud i fyny yn ein sefydliad, yn ogystal ag addasu i fywyd yn gweithio a dysgu gartref. Gwyliwch ei gyfweliad fideo isod, lle mae'n dweud wrthon ni sut y mae wedi cefnogi NWIS yn bersonol yn ystod y pandemig.

Sbotolau Myfyrwyr WIDI: Ben Atkins
Sbotolau Myfyrwyr WIDI: Ben Atkins