March 2020
Ionawr 2021
Gwaith uwchraddio mawr ar gyfer TG a meddalwedd yn labordai patholeg GIG Cymru

Mae chwe labordy patholeg GIG Cymru wedi cael caledwedd TG newydd ac mae eu meddalwedd wedi'i huwchraddio, sy'n golygu gwelliannau i'r system, gwell gwytnwch a phroses rheoli data haws.

Gan weithio'n agos gyda'r cyflenwr InterSystems, llwyddodd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i gwblhau'r gwaith uwchraddio mawr i'r system labordy genedlaethol dros un penwythnos ym mis Rhagfyr. Gwnaeth y cynllunio gofalus olygu bod cyn lleied â phosibl o darfu.

Cyflwynwyd System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru (WLIMS) yn 2013 ac mae'n rhan hanfodol o'r TG gofal iechyd modern a ddefnyddir i gefnogi gofal cleifion.  Bydd y gwaith uwchraddio yn diogelu'r system tan 2025.

Caiff miloedd o brofion diagnostig eu prosesu bob dydd, ac mae gwasanaethau patholeg yn chwarae rhan allweddol ym mhob agwedd ar ofal cleifion ac maent yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn pandemig COVID-19.

Mae tua 70% o'r holl ddiagnosisau clinigol yng ngofal sylfaenol ac eilaidd yn dibynnu ar wybodaeth a chyngor gan batholegwyr.  Bob blwyddyn, mae'r system yn prosesu tua 30 miliwn o ganlyniadau profion, a gellir cael mynediad at y rhain o fewn eiliadau. Ym mis Rhagfyr yn unig, ymdriniodd WLIMS â dros hanner miliwn o brofion COVID-19 a thros 2.3 miliwn o brofion nad oeddent yn ymwneud â COVID-19.

Caiff canlyniadau gan WLIMS eu rhannu'n electronig gyda meddygon gofal eilaidd drwy Borth Clinigol Cymru, gyda meddygon teulu drwy systemau gofal sylfaenol, a chyda nifer o systemau clinigol gofal arbenigol.
Gwasanaeth brechlynnau yn cysylltu â phractisiau meddygon teulu yng Nghymru

Mae data brechlynnau a gesglir ar System Imiwneiddio Cymru (WIS) bellach ar gael i feddygon teulu trwy'r Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol (PCIT) ac fe'u diweddarir bedair gwaith y dydd.
 
Ochr yn ochr â hyn, mae hyfforddiant a chefnogaeth yn cael eu cynnig i gydweithwyr gofal sylfaenol ledled Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn gallu defnyddio'r system yn gywir.
 
Ar hyn o bryd, mae System Imiwneiddio Cymru yn cefnogi brechlynnau AstraZeneca Rhydychen a Pfizer/BioNTech, ac mae wedi'i galluogi i hwyluso unrhyw frechlynnau a gymeradwyir yn y dyfodol.
 
Mae hwyluswyr newid busnes Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi bod ar y safle mewn 16/24 o'r safleoedd brechu sy'n cefnogi gweithrediad yr WIS. Mae hyn wedi cynnwys darparu ystod o hyfforddiant ar WIS, creu a darparu modiwlau e-ddysgu ar gyfer brechwyr, gan gynnwys cynnwys a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer meddygon teulu sy'n defnyddio WIS.
 
Bydd byrddau iechyd neu bractisiau meddygon teulu yn cysylltu ag unigolion pan fyddant yn gymwys i gael brechlyn.  

Gofal cymdeithasol a'r Adnodd Data Cenedlaethol yng Nghymru

Mae cyfres gweminar Yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) yn parhau wrth i ni archwilio'r strategaeth a'r weledigaeth ar gyfer data gofal cymdeithasol yng Nghymru ac arddangos enghreifftiau lle mae data cydgysylltiedig eisoes yn cael ei ddefnyddio i wneud gwahaniaeth go iawn.

Ymunwch â ni ddydd Mercher 24 Chwefror 2021 wrth i ni fynd ar wibdaith o amgylch y strategaeth a'r weledigaeth ar gyfer data gofal cymdeithasol a'r Rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol yng Nghymru.

Am docynnau: Eventbrite.

Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn addo cefnogi cyfleoedd recriwtio i gyn-filwyr

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yw'r 100fed sefydliad i arwyddo'r cynllun Addewid Step into Health bellach, sef rhaglen sy'n cefnogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog i chwilio am gyfleoedd cyflogaeth yn y GIG.

Dywedodd Sarah Brooks, Arweinydd Datblygu Sefydliadol, Diwylliant ac Ymgysylltu 

"Rydym yn cydnabod y gwerth y gall personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol ychwanegu i'n gweithlu. Wrth symud ymlaen, byddwn yn adolygu ein harferion recriwtio, yn meithrin perthynas â'r Bartneriaeth Pontio Gyrfa (CTP) ac yn datblygu rhwydweithiau gyda chymuned y Lluoedd Arfog, i hyrwyddo NWIS fel Sefydliad sy'n ystyriol o filwyr. Bydd cyhoeddiadau a diweddariadau pellach yn ystod y misoedd nesaf yn rhoi manylion am y gwaith y tu ôl i'r prosiect cyffrous hwn. "
 
I ddarganfod rhagor am y cynllun, gallwch fynd i wefan Step into Health.