Ionawr 2020
Amdanom di   |   Cofrestrwch   |   Swyddi Gwag
Adolygiadau cenedlaethol o ganlyniadau profion radioleg a phatholeg yn fyw yng Nghymru

Mae gwasanaethau digidol mwyaf blaenllaw y byd yn trawsnewid y ffordd y mae canlyniadau radioleg yn cael eu defnyddio yn GIG Cymru.
 
Fis diwethaf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro oedd y bwrdd iechyd olaf i fabwysiadu'r gwasanaeth adrodd ar ganlyniadau radioleg digidol newydd, sydd ar gael trwy Borth Clinigol Cymru. Mae'r garreg filltir hon yn golygu y gall clinigwyr yn holl ysbytai Cymru bellach weld canlyniadau profion radioleg a phatholeg o bob rhan o Gymru mewn un lle.
 
Mae cael mynediad at ganlyniadau a gynhyrchir mewn byrddau iechyd cyfagos yn arbed amser, yn llywio penderfyniadau clinigol, yn gwella diogelwch y claf ac yn golygu llai o brofion dyblyg a sganiau i gleifion.
 
Ym mis Tachwedd, roedd clinigwyr yn ysbytai Cymru wedi defnyddio canlyniadau profion radioleg a phatholeg ar-lein presennol bron i 900,000 o weithiau. O'r rhain, cafodd tua phump y cant eu gweld ledled ffiniau sefydliadol, gan olygu llai o amser ar y ffôn yn mynd ar ôl copïau o ganlyniadau a gymerwyd mewn sefydliadau cyfagos.

"Mae hwn yn gyflawniad hirddisgwyliedig a adeiladwyd ar y platfform digidol cenedlaethol, gan ddarparu gwasanaethau cyffredin ledled Cymru. Mae'n golygu bod adroddiadau radioleg o'r holl fyrddau iechyd ar gael i holl weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd ledled Cymru trwy Borth Clinigol Cymru, gan ganiatáu i glinigwyr ddefnyddio eu hamser yn fwy effeithiol i helpu cleifion. Ni fydd rhaid i staff anfon ffacs neu e-bost yn cynnwys adroddiadau radioleg Cymru mwyach."

Meddai Rhidian Hurle, Prif Swyddog Gwybodaeth Clinigol Cymru a Llawfeddyg Wroleg Ymgynghorol

Trwy fewngofnodi unwaith yn unig, mae Porth Clinigol Cymru yn rhannu, yn darparu ac yn arddangos gwybodaeth am glaf o nifer o ffynonellau, hyd yn oed os yw'r wybodaeth honno'n cael ei rhannu ledled y byrddau iechyd. Mae cael yr wybodaeth mewn un lle yn golygu bod gan glinigwyr bob amser fynediad at gofnodion cywir a chyfredol cleifion.
 
Yng ngofal sylfaenol, mae'r cais am ganlyniadau profion meddygon teulu ar gael gan ddarparu adolygiadau cenedlaethol o ganlyniadau profion radioleg a phatholeg.
Mae'r e-Lyfrgell angen eich adborth
 
Mae e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru angen eich adborth er mwyn gwybod a yw rhai o'u hoffer gwybodaeth yn diwallu anghenion cleientiaid. 
 
Yn benodol, maent yn cynnal adolygiad o'u Hoffer Pwynt Gofal, BMJ Best Practice ac adnoddau DynaMed. 
 
Mae'r e-Lyfrgell yn cynnal trafodaethau byw ar-lein sydd ar gael i staff GIG Cymru ar:
Gallwch hefyd ddarparu adborth drwy wneud y canlynol:  
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â'r adolygiad, cysylltwch ag [email protected] neu'ch llyfrgell leol yn GIG Cymru neu Lywodraeth Cymru.
Enwyd Andrew Griffiths yn Brif Weithredwr newydd FedIP
 
Mae Andrew Griffiths, Cyn-gyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, wedi cael ei benodi'n Brif Weithredwr newydd FedIP (the Federation of Informatics Professionals), sef y corff sy'n arwain proffesiynoldeb ar gyfer y gymuned TG ym maes gofal iechyd.
 
"Mae gan FedIP rôl hanfodol i'w chwarae wrth gryfhau ein proffesiwn yn ogystal â'n heffaith a'n dylanwad ar ddarpariaeth gofal iechyd, felly rydyn ni wrth ein boddau bod Andrew yn ymuno â ni fel prif weithredwr," meddai aelod o fwrdd FedIP, Wendy Dearing. "Mae wedi bod yn llais dros sgiliau a phroffesiynoldeb yn y sector TG ers amser hir, a bydd ei wybodaeth a'i arbenigedd yn amhrisiadwy."
 
"Rydw i'n falch iawn o fod wedi cael y cyfle hwn," meddai Andrew Griffiths. "Rwy'n teimlo'n gryf y dylai gofal iechyd fod yn weithle deniadol i weithwyr gwybodeg proffesiynol, a hynny â llwybr gyrfa a chyfleoedd datblygu proffesiynol cryf. Byddwn yn hoffi petai gan bawb sy'n gweithio ym maes TG gofal iechyd gofrestriad proffesiynol."
 
Rhoddodd Andrew orau i'w swydd fel Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a'r Prif Swyddog Gwybodaeth ym mis Rhagfyr 2019. Mae FedIP yn gydweithrediad rhwng cyrff proffesiynol blaenllaw ym maes gwybodeg iechyd a gofal gan gynnwys:
  • Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain - Y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG 
  • Socitm - The Society for Innovation, Technology and Modernisation
  • CILIP - Y Gymdeithas Llyfrgelloedd a Gwybodaeth
  • AphA - The Association of Professional Healthcare Analysts
  • IHRIM - Sefydliad Cofnodion Iechyd a Rheoli Gwybodaeth.
 Mae rhagor o wybodaeth am FedIP ar gael ar  
fedip.org
Persbectif Claf: Sut mae gwasanaethau digidol yn gwneud gwahaniaeth  
 
Yn ddiweddar, cysylltodd dyn o'r enw Gareth (nid ei enw go iawn - ond rydym am ei gadw'n ddienw) â ni drwy'r cyfryngau cymdeithasol i ddweud wrthym sut mae gwasanaethau digidol yn gwneud gwahaniaeth i ofal ei wraig.
 
Mae Gareth wedi bod yn ofalwr llawn amser i'w wraig am y deuddeg mlynedd diwethaf. Mae wedi mynd gyda hi pan fydd yn mynychu ei hymgynghoriadau blynyddol gydag oncolegydd yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd ac Ysbyty Felindre. 
 
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae wedi sylwi bod y meddyg yn cael mynediad at lawer mwy o wybodaeth drwy Borth Clinigol Cymru.
 
"Yn ogystal ag edrych ar gofnodion fy ngwraig ynghylch ei arbenigedd, roedd y meddyg yn gallu edrych ar ganlyniadau ei meddyg teulu a chofnodion o arbenigeddau eraill, a chlinigau eraill yr oedd wedi eu mynychu yn y gorffennol, er mwyn cael dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o'i chyflwr iechyd fel cyfanwaith." Meddai Gareth, cyn-weithiwr proffesiynol TG.
 
Nid yw Gareth wedi gorfod ailadrodd cymaint o wybodaeth am fanylion ac iechyd ei wraig ag y bu'n rhaid iddo wneud yn y gorffennol, gan arbed amser a gwneud y broses yn llai ailadroddus.
 
"Mae cymaint o'r wybodaeth ar gael mewn un lle iddyn nhw nawr," dywedodd ef. "Mae wedi bod gymaint yn well ac mae wedi cael gwared ar rwystrau."
 
Mae gan wraig Gareth sawl cyflwr i'w rheoli, gan gynnwys diabetes. O ganlyniad, maent wedi profi'r gwasanaeth iechyd mewn llawer o wahanol leoliadau.  Dywed fod y gwelliannau wedi creu argraff arno, megis y gostyngiad mewn camgymeriadau sy'n cael eu gwneud sy'n gysylltiedig â gwaith papur.
 
"Rwy'n credu bod hyn mor bwysig" ychwanegodd, "gan fod llawer o bobl yn datblygu ystod o gyflyrau iechyd wrth iddynt heneiddio. Da iawn, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru!"
 
Rydym yn ddiolchgar iawn i Gareth am gysylltu i rannu stori ei wraig â ni. Os ydych chi, neu unrhyw un rydych yn ei adnabod wedi cael profiadau cadarnhaol tebyg gydag unrhyw un o'n gwasanaethau neu gynhyrchion digidol, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at  
[email protected].