March 2020
Bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn parhau i gefnogi GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gleifion ac i'r cyhoedd yn ystod pandemig COVID-19.

Mae'r sefydliad yn cymryd sawl cam allweddol, gan gynnwys;
  • Cynyddu lled band technoleg allweddol i alluogi rhagor o staff clinigol, technegol a chefnogol i weithio o bell
     
  • Cefnogi cyflwyno ffyrdd newydd o weithio ar gyfer gofal sylfaenol fel ymgynghoriadau rhithwir a mynediad at dechnoleg trwy ddyfeisiau personol 
     
  • Cefnogi'r defnydd lleol o'r gwasanaethau cwmwl y mae GIG Cymru wedi buddsoddi ynddynt, gan gynnwys Microsoft Office 365
     
  • Cadw gwasanaethau critigol mewn cyflwr 'busnes fel arfer' 
     
  • Dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ar sicrhau diogelwch a llesiant ein gweithlu.
Bydd gwefan Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru bellach yn cynnig gwybodaeth am ffyrdd o weithio, cymorth digidol a chyngor ymarferol i weithwyr proffesiynol GIG Cymru yn ystod pandemig COVID-19. 
Gwasanaethau Digidol i Feddygon Teulu yn ystod COVID-19

Mae nifer o ffyrdd y gall TG helpu meddygon teulu yn ystod pandemig COVID-19. I gael gwybodaeth am sut rydym yn darparu gwasanaethau ychwanegol gweler ein gwefan.

Dyma rai o'r cynlluniau sydd ar y gweill:


 

Ymgynghoriadau Fideo - Attend Anywhere

Mae cynlluniau ar y gweill i ddarparu ymgynghoriadau fideo i bob practis meddyg teulu ar y cyfle cyntaf. Mae tîm Gwasanaethau Gofal Sylfaenol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymr

u ynghlwm wrth y gwaith o weithredu'r cynnyrch Attend Anywhere.


 

Gweithio o Bell i Feddygon Teulu

Caniatáu i feddygon teulu gael mynediad at systemau o bell. Mae gwybodaeth am hyn ar gael ar ein gwefan.


 

Tocynnau Mynediad o Bell i Feddygon Teulu

Mae 'tocynnau meddal' yn cael eu cyflwyno i'r rhai nad oes ganddynt fynediad at docyn SecurID. Mae angen lawrlwytho ap ar ffôn clyfar y derbynnydd er mwyn defnyddio'r tocynnau meddal ac maent yn gyflym ac yn hawdd i'w gosod. Gallwch ddarganfod sut i wneud cais am un ar y wefan.


 

Neges Destun Fy Iechyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu negeseuon ychwanegol i helpu practisiau meddygon teulu i gyfathrebu â chleifion. Bydd 2 neges destun ychwanegol i bob claf (yn ôl maint rhestr y practis) yn cael eu hanfon, yn ogystal â dyraniad blynyddol y practis.


 

Porth Clinigol Cymru (WCP) Mynediad Gweld i Feddygon Teulu

Bydd Porth Clinigol Cymru yn rhoi mynediad i feddygon teulu at wybodaeth bwysig am gleifion a gedwir yn y cofnod gofal eilaidd. Mae'n rhoi mynediad at grynodebau rhyddhau, canlyniadau profion a llythyrau clinigol o bob ysbyty yng Nghymru, gan gynnwys adroddiadau radioleg. Gweler ein gwefan am ragor o wybodaeth.

Casglu data a dangosfwrdd COVID-19

Rydym yn gweithio ar sawl menter i gasglu a dadansoddi data a fydd yn llywio cynllunio cenedlaethol a darpariaeth weithredol yn ystod pandemig COVID-19. Caiff y data hyn eu rhannu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru a Sefydliadau'r GIG.
 
Mae hyn yn cynnwys data i gefnogi uwchgyfeirio a rheoli sefyllfa COVID-19, ac i adnabod grwpiau sy'n agored i niwed, yn ogystal â data 111 a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i roi gwybodaeth am y sefyllfa sy'n datblygu.
 
Rydym hefyd yn gweithio ar ddangosfwrdd ar-lein er mwyn ei gwneud yn haws i fyrddau iechyd gael mynediad at ddata yn ymwneud â COVID-19.
GIG Cymru yn datblygu system TG ar gyfer profi am COVID-19

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi creu system gwneud cais am brawf yn electronig i'w defnyddio mewn unedau profi cymunedol ledled Cymru.

Mae hyn yn golygu y bydd modd storio canlyniadau profion COVID-19 cleifion yn ddigidol ar Borth Clinigol Cymru, a'u hychwanegu at gronfa ddata ganolog.

Bydd y system yn helpu i gyflymu'r broses gwneud cais mewn labordai a bydd yn galluogi mwy o samplau i gael eu harchebu a'u labelu'n gywir.

Gellir cael mynediad at gofnod digidol pob claf yng Nghymru sydd wedi cofrestru â phractis meddyg teulu ar y system, felly ni fydd profion wedi'u cyfyngu i fwrdd iechyd neu awdurdod lleol yr unigolyn.

Mae'r system hefyd yn galluogi clinigwyr a dadansoddwyr data i wahaniaethu rhwng pa brofion COVID-19 y gwnaed cais amdanynt mewn lleoliadau cymunedol a pha rai a gwblhawyd mewn ysbytai ar gyfer cleifion mewnol. Bydd hyn yn rhoi darlun mwy clir o sut mae COVID-19 yn cael ei reoli ledled Cymru.

Bydd canlyniadau'r profion ar gael i weithwyr gofal iechyd proffesiynol drwy Borth Clinigol Cymru ac ap ffôn symudol Porth Clinigol Cymru, sy'n golygu y bydd clinigwyr yn gallu gweld canlyniadau eu cleifion o unrhyw le.
Gwasanaethau fideo ac ar-lein newydd i gleifion allanol

Mae COVID-19 yn prysur newid y ffordd mae ein hysbytai a'n practisiau meddygon teulu yn darparu gofal, gyda chyfyngiadau ar gyswllt cymdeithasol a'r galw am gapasiti ychwanegol.

Mewn ymateb i hyn, rydym yn cyflymu'r gwaith o gyflwyno ystod o offer digidol i helpu i ddarparu gofal rheng flaen a pharhau i ofalu am y cleifion sydd fwyaf agored i niwed.

Rydym yn ymgymryd ag ymgynghoriadau fideo ar gyfer y 1,200 o glinigau cleifion allanol a gynhelir ar ddiwrnod arferol yng Nghymru, ynghyd â nodweddion hanfodol newydd ar Borth Clinigol Cymru i gefnogi'r ymgynghori rhithiwr.

Mae llawer o glinigwyr eisoes wedi llwyddo i gynnal ymgynghoriadau dros y ffôn, gyda chymorth mynediad at gofnod iechyd cleifion drwy Borth Clinigol Cymru. Mae hyn yn galluogi clinigwyr i weld manylion cleifion o unrhyw leoliad - y clinig, y swyddfa neu gartref, gan wneud ymgynghori o bell yn bosibl. 

Er mwyn cefnogi apwyntiadau rhithiwr, bydd 'taflen barhad cleifion allanol' yn galluogi'r clinigydd i gofnodi canlyniad yr apwyntiad ar-lein, heb fod angen defnyddio ffurflen bapur.
Gwnaethom ymuno â byrddau iechyd i 'gyflymu' y nodwedd newydd hon, a fydd yn barod ar gyfer Prawf Cadarnhad Defnyddiwr yn gynnar ym mis Ebrill.

Mae'n golygu y bydd yr ymgynghorydd yn gallu defnyddio Porth Clinigol Cymru, lle bynnag y mae, i gael mynediad at y rhestr glinigol, i adolygu cofnod y claf, i gofnodi manylion yr ymgynghoriad ac i gofnodi'r penderfyniad, gan gefnogi'r apwyntiad claf allanol rhithiwr cyflawn.

Caiff adroddiad ei lunio er mwyn galluogi staff cofnodion iechyd i olrhain y claf a diweddaru'n ôl-weithredol y System Gweinyddu Cleifion i sicrhau bod llwybr y claf yn cael ei gadw'n gyfredol.

I gefnogi'r gwaith o reoli cleifion yn barhaus yn yr amgylchiadau eithriadol hyn, rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda byrddau iechyd a chlinigwyr i archwilio ffyrdd y gall ymgynghoriadau weld eu 'Rhestr Apwyntiad Dilynol Heb Ei Drefnu' ar Borth Clinigol Cymru.  Bydd galluogi'r mynediad a'r gwelededd hwn yn helpu clinigwyr i wneud penderfyniad gwybodus am y cleifion y mae angen eu gweld ar frys a'r rhai y gellir eu haildrefnu oherwydd achos COVID-19.

Cysylltodd Rebecca â ni yr wythnos hon, ac roedd eisiau dweud wrthym sut aeth apwyntiad claf allanol pwysig rhagddo, diolch i wasanaethau iechyd a gofal digidol.
 
Mae gan Rebecca gyflwr cronig ac roedd yr apwyntiad gyda'i harbenigwr gastroenteroleg yn hanfodol bwysig i'w gofal a'i llesiant parhaus.
Gan fod yr ymgynghorydd yn hunanynysu gartref, cafodd Rebecca gynnig ymgynghoriad dros y ffôn.
 
Meddai: "Llwyddodd fy ymgynghorydd i ddefnyddio Porth Clinigol Cymru o'i gartref er mwyn gweld fy manylion a chanlyniadau profion. Roedd yr apwyntiad yr un mor ddefnyddiol ag apwyntiad wyneb yn wyneb ac roedd yn llai o straen o lawer. Gwnaeth gymaint o wahaniaeth!
 
"Mae'r gwaith rydych chi'n ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau digidol ar gael ym maes iechyd a gofal yn ardderchog. Rydych chi'n gwneud pethau gwerth chweil, ac mae'r cyfan yn dod ynghyd nawr. Diolch."


Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn cadw gwybodaeth allweddol ar COVID-19

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol trwy ddarparu mynediad at wybodaeth ddigidol ar COVID-19.

Mae  gwefan yr e-Lyfrgell, sydd newydd ei datblygu, yn cynnwys amrywiaeth eang o ddolenni gan eu cyhoeddwyr a'u cyflenwyr megis GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a Cholegau Brenhinol a Chymdeithasau i ddarparu cymorth ac arweiniad i'r rheiny sy'n gweithio i GIG Cymru y gellir cael mynediad atynt o bell. 

Gellir dod o hyd i'r newyddion diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar eu gwefan, yn ogystal â chrynodebau tystiolaeth ar arfer gorau a phapurau o ffynonellau credadwy. Mae The British Medical Journal (BMJ) wedi rhoi mynediad at fodiwlau e-Ddysgu ar y coronafeirws, a gallwch hefyd wrando ar eu podlediad Talk Evidence sy'n trafod creu sylfaen dystiolaeth ar gyfer COVID-19.

Gall defnyddwyr gael mynediad ar unwaith at erthyglau cysylltiedig os ydynt yn defnyddio dyfais wedi'i rhwydweithio gan GIG Cymru, neu o'u cyfrif OpenAthens GIG Cymru . Os oes angen i chi gael mynediad at erthygl y tu allan i rwydwaith y GIG, cliciwch yma .

Neges oddi wrth Helen Thomas, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Fel sefydliad digidol byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Heb os, bydd yr wythnosau nesaf yn rhai heriol a bydd pwysau cynyddol ar ein hysbytai a'n practisiau meddygon teulu.
 
Mewn ymateb i'r sefyllfa rydym yn cefnogi'r defnydd cynyddol o negeseuon symudol a gweithio o bell ac rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar sut y gellir defnyddio offer symudol newydd i gefnogi gofal unigol a'i gwneud hi'n haws i feddygon teulu ddefnyddio fideo-gynadledda ar gyfer ymgynghori â chleifion.
 
Ac rydym wedi cyflymu'r gwaith o gyflwyno Porth Clinigol Cymru mewn gofal sylfaenol, fel y gall pob meddyg teulu weld cofnod digidol y claf. Rydym hefyd wedi cynyddu capasiti 'pib' y rhyngrwyd i GIG Cymru.
 
Byddwn yn defnyddio ein gwefan i bostio'r diweddariadau diweddaraf ar y gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol wrth iddynt ddelio â COVID-19 ynghyd â delio â nifer o Gwestiynau Cyffredin.
 
Gan fod iechyd a llesiant ein staff o'r pwys mwyaf, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'r ffordd yr ydym yn gweithio a fydd yn caniatáu inni barhau i ddarparu'r gwasanaethau cymorth digidol sydd eu hangen ar ein cydweithwyr sy'n darparu iechyd a gofal yng Nghymru.
 
Dyma gyfnod heriol ac eithriadol i bawb a bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi gwasanaethau a staff wrth iddynt ddelio ag effaith COVID-19.