March 2020
Chwefror 2021
Llythyr agored gan Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Ar 1 Ebrill, bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn newid i fod yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a fydd yn Awdurdod Iechyd Arbennig newydd.

Mae hwn yn newid pwysig, sydd wir yn dod ar yr adeg iawn yn fy marn i. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld pa mor hanfodol bwysig yw technoleg i gefnogi ymateb GIG Cymru i COVID-19.   A dweud y gwir, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at y rôl ehangach y gall technoleg ei chwarae wrth gefnogi a gwella ein gwasanaethau iechyd a gofal. Mae wedi newid ymddygiadau, mae wedi cyflymu nifer y bobl sy'n ymgymryd â gwasanaethau ac mae hefyd wedi sbarduno datrysiadau digidol newydd.

Mae ymgynghoriadau rhithwir, mynediad o bell at y cofnod iechyd sengl a gwasanaethau data uwch yn helpu pob un ohonom i ddod drwy sefyllfa anodd. Felly, yn ystod yr argyfwng hwn, mae wedi bod yn werth chweil derbyn adborth cadarnhaol gan ein defnyddwyr a'n rhanddeiliaid.

Fel y gwyddwn, mae technoleg iechyd yn wasanaeth craidd ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru, ac mae'r systemau a'r gwasanaethau TG rydym wedi'u datblygu a'u darparu dros y degawd diwethaf yn dal i fod yn hanfodol wrth redeg gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru o ddydd i ddydd.
Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i ddatblygu a gwella ein datblygiad craidd a'n gwasanaethau gweithredol, gyda'r nod o gefnogi symud a mynediad at ddata a gwybodaeth ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol a chleifion.

Fy mwriad diffuant yw y byddwn yn parhau â'r daith hon gyda'n gilydd, gan weithio gyda'n partneriaid mewn ysbytai, byrddau iechyd, gofal sylfaenol ac mewn diwydiant i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau digidol.

Ar ddechrau'r newid mawr hwn, hoffwn ddiolch i staff Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac i'n partneriaid am eu cyfraniad a'u mewnbwn hyd yma. Rydym mewn sefyllfa ardderchog i symud ymlaen, fel un o'r ychydig genhedloedd sydd â chofnod digidol cenedlaethol integredig i gefnogi gofal cleifion, ac sydd ar gael ar draws yr holl leoliadau gofal. Ond mae cymaint mwy i'w wneud a bydd angen i ni sicrhau ein bod yn gallu cwrdd â'r her hon, a hynny gyda'n partneriaid.

Mae creu Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ddigwyddiad sylweddol gan ei fod yn nodi newid mewn pwyslais ac yn gosod ffocws cryf ar y gwasanaethau technoleg a data cenedlaethol y mae eu hangen arnom heddiw. Technoleg a data sy'n canolbwyntio ar integreiddio ac ar ddeallusrwydd artiffisial, ac sy'n gwneud y gorau o wasanaethau digidol a yrrir gan ddefnyddwyr.

Mae technoleg ym maes iechyd a gofal yn esblygu, ac mae hynny'n ffaith.

Fel Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ni allai fod amser gwell i fod yn rhan o'r sector hwn ac i arwain y sefydliad iechyd digidol cenedlaethol newydd wrth iddo sefydlu ei hun yn rhan annatod o deulu GIG Cymru. Rwyf wir wedi fy nghyffroi gan y cyfleoedd sy'n ein hwynebu - nid yn unig ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru ond ar gyfer yr hyn y bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gallu ei gyflawni dros y GIG ac, yn y pen draw, dros gleifion Cymru. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ac at gefnogi Bob Hudson, ein Cadeirydd Dros Dro, yn ogystal â'r Bwrdd newydd dros y misoedd nesaf.
Ysgrifennydd Bwrdd newydd wedi'i benodi i Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Penodwyd Ysgrifennydd Bwrdd sydd â phrofiad helaeth mewn llywodraethu gofal iechyd i'r
Awdurdod Iechyd Arbennig newydd - Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a fydd yn cael ei lansio ar 1 Ebrill 2021, sy'n disodli Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

Mae Chris Darling yn ymuno â'r sefydliad newydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, lle mae ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Busnes Corfforaethol ac yn Bennaeth Staff i'r Prif Weithredwr. Mae'r cyfrifoldebau allweddol yn y rôl hon yn cynnwys arwain ar ymateb y Bwrdd Iechyd i'w statws uwchgyfeirio (Mesurau Arbennig ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth ac Ymyrraeth wedi'i Dargedu ar gyfer Ansawdd a Llywodraethu) a fframwaith gwella Cwm Taf Morgannwg ar gyfer Ansawdd a Llywodraethu.

Treuliodd Chris 10 mlynedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro lle bu'n ymwneud â chynllunio a rheoli strategol y Rhaglen Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Dechreuodd Chris ei yrfa fel archwilydd mewn cwmni cyfrifeg siartredig, gan ymgymryd ag aseiniadau ymgynghori a oedd ymwneud yn bennaf â sefydliadau'r sector cyhoeddus. Ymunodd â'r GIG yn ardal Southampton yn 2004 cyn symud i Gymru yn 2007.

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Chris: "Mae'n deimlad cyffrous i mi ymuno â'r sefydliad newydd ar y dechrau. Rwy'n angerddol am lywodraethu corfforaethol, a chredaf fod llywodraethu da yn rhoi sylfaen ar gyfer perfformiad uchel sefydliadol, yn ogystal â mwy o ymddiriedaeth a hyder gan randdeiliaid."

Chris yw'r ail berson i gael ei benodi i'r sefydliad newydd a bydd yn ymgymryd â'i rôl ym mis Chwefror, gan ymuno â Bob Hudson, y Cadeirydd Dros Dro.
Dywedodd Bob Hudson: "Rwy'n falch iawn bod Chris am ymuno ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae'n dod â chyfuniad gwerthfawr o sgiliau a gwybodaeth gydag ef a fydd yn allweddol i sefydlu a bwrw ymlaen â gwaith strategol ein Bwrdd newydd."
Nodwedd gwybodaeth arennol newydd ar y gweill ar gyfer Porth Clinigol Cymru

Ar hyn o bryd, mae crynodeb digidol o ofal cleifion arennol yn cael ei ddatblygu ar gyfer Porth Clinigol Cymru.
 
Bydd hyn yn golygu y bydd cleifion ar ddialysis yn cael cynnig gweld diweddariadau rheolaidd o'u gofal arennol drwy Borth Clinigol Cymru.
 
Bydd clinigwyr sydd â mynediad at Borth Clinigol Cymru yn gallu gweld diagnosis arennol claf, manylion am ei sesiynau dialysis diweddaraf, meddyginiaethau a roddwyd gan yr uned arennol a nodiadau clinigol o'r system arennol. Bydd hefyd yn cynnwys manylion cyswllt meddyg arennol a llawfeddyg y claf, yn ogystal â manylion ei dîm trawsblaniadau (os yn berthnasol).
 
Mae'r tîm arennol hefyd yn cyflwyno'r gallu i unedau dialysis gofnodi gwybodaeth am roi meddyginiaethau. Bydd hyn yn galluogi clinigwyr i weld rhestr o feddyginiaethau a roddwyd yn ddiweddar lle mae cyfleusterau'n bodoli.
 
Nod y nodwedd arennol newydd yw cefnogi cydweithwyr Gofal Sylfaenol ac Adrannau Argyfwng drwy roi gwybodaeth iddynt am ofal arennol claf, a fyddai fel arall y tu hwnt i'w cyrraedd yn uniongyrchol.
 
Mae'r crynodeb digidol o ofal arennol yn cael ei ddatblygu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, fel rhan o brosiect Cronfa Drawsnewid Llywodraeth Cymru ar ran Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru. Y bwriad yw sicrhau bod y crynodeb ar gael ar Borth Clinigol Cymru yn 2021.