Chwefror 2020
Amdanom di   |   Cofrestrwch   |   Swyddi Gwag
Mwy na miliwn o gofnodion cleifion digidol wedi'u rhannu rhwng byrddau iechyd yng Nghymru

Erbyn hyn, Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws holl ffiniau sefydliadol y byrddau iechyd i gael mynediad at wybodaeth ddigidol cleifion, sy'n caniatáu i wybodaeth ddilyn y claf ble bynnag yng Nghymru y darperir gofal.
 
Ym mis Ionawr, edrychwyd ar filiynfed canlyniad y prawf digidol rhwng byrddau iechyd trwy wasanaeth cofnodion cleifion digidol Cymru, Porth Clinigol Cymru. Mis Ionawr hefyd oedd y mis prysuraf hyd yma ar gyfer edrych ar wybodaeth cleifion y tu allan i'r ardal. Rhannwyd mwy na 49,000 o ganlyniadau profion rhwng y byrddau iechyd.
 
Daw'r garreg filltir hon fis ar ôl i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ddod yn fwrdd iechyd olaf Cymru i fabwysiadu'r gwasanaeth adrodd ar ganlyniadau radioleg digidol, sydd ar gael trwy Borth Clinigol Cymru.
Golyga hyn y gall clinigwyr yn holl ysbytai Cymru bellach weld canlyniadau profion radioleg a phatholeg o bob rhan o Gymru mewn un lleoliad.
 
Mae cael mynediad at ganlyniadau a gynhyrchir mewn byrddau iechyd cyfagos yn arbed amser, yn llywio penderfyniadau clinigol, ac mae'n golygu bod angen llai o brofion a sganiau dyblyg ar gleifion.
 
"Mae cyrraedd y garreg filltir o edrych ar filiwn o ganlyniadau profion ar draws ffiniau byrddau iechyd Cymru yn dangos maint y gwerth y gellir ei greu pan fydd cynnyrch cenedlaethol yn cael ei weithredu'n llawn," dywedodd Griff Williams, Arweinydd Prosiect Porth Clinigol Cymru. "Nod ein cynllun ar gyfer y Cofnod Claf Sengl yw cynyddu lefel y gofal iechyd digidol sydd ar gael i weithwyr gofal iechyd proffesiynol y GIG, gan gynnwys canlyniadau endosgopi, gweithrediad yr ysgyfaint a geneteg."
 
System TG genedlaethol yw Porth Clinigol Cymru a grëwyd ac a adeiladwyd gan GIG Cymru. Trwy fewngofnodi unwaith yn unig, mae'n rhannu, yn darparu ac yn arddangos gwybodaeth am gleifion o nifer o ffynonellau sy'n helpu i wella cydweithrediad rhwng clinigwyr, ysbytai a chanolfannau iechyd eraill yng Nghymru.
GIG Cymru ar flaen y gad o ran gofal sy'n cael ei yrru gan ddata
 
Mae dangosfyrddau data newydd sy'n benodol i gyflwr yn cael eu datblygu gan GIG Cymru i roi mewnwelediad i ganlyniadau cleifion, ac i nodi amrywiadau mewn gofal.
 
Mae dadansoddwyr ac arbenigwyr technoleg o Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn adeiladu'r dangosfyrddau i gefnogi'r rhaglen Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth sy'n uchel ei phroffil, gan weithio ar y cyd â chlinigwyr, Llywodraeth Cymru a'r Uned Cyflenwi Cyllid.
 
Mae'r rhaglen yn gosod Cymru ar flaen y gad o ran arloesi i gefnogi gwerth mewn iechyd, sy'n ymwneud â sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'r claf gyda'r adnoddau sydd ar gael.
 
Mae dangosfyrddau yn rhyngweithiol ac yn cysylltu agweddau ar daith y claf, gan gynnwys data archwilio a mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMS). Mae hyn yn rhoi mwy o ffocws ar yr ymyriadau sy'n gweithio orau i gleifion, gan ystyried eu hamgylchiadau personol eu hunain, ac mae'n tynnu sylw at amrywiad mewn gwasanaethau a chanlyniadau i ddatgelu gor-ddefnyddio a than-ddefnyddio gwahanol agweddau ar ofal iechyd.
 
Rhyddhawyd Dangosfwrdd Cenedlaethol Canser yr Ysgyfaint y llynedd, a bydd dangosfyrddau ar gyfer methiant y galon, gosod pennau gliniau newydd, strôc, cataractau a chanser y colon yn dilyn hyn yn 2020.
 
Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i ddatblygu dangosfwrdd Canser yr Ysgyfaint ail genhedlaeth, gan adeiladu ar lwyddiant y dangosfwrdd cyfredol ac esblygu i fodloni gofynion defnyddwyr mwy soffistigedig.

"Mae gan ddata'r pwer i gael effaith uniongyrchol ar y gofal a'r dewisiadau gofal y gall cleifion eu gwneud. Er enghraifft, dylai claf allu defnyddio'r dystiolaeth sydd ar gael i lywio penderfyniad ynghylch cael cemotherapi, neu a fyddai pen-glin newydd yn gwella ansawdd ei fywyd."

Sally Cox, Arbenigwr Gwybodaeth Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru


"Er mwyn darparu'r darlun cyfan sydd ei angen i nodi amrywiadau mewn gofal, mae angen i ni ddod â'r holl ddata sydd ar gael at ei gilydd," esboniodd yr Arbenigwr Gwybodaeth Sally Cox sy'n arwain y gwaith o ddatblygu'r dangosfwrdd yn y Gwasanaeth Gwybodeg. "Ni fydd casglu data ar ein pennau ein hunain, neu mewn seilos yn seiliedig ar ardal ddaearyddol, yn ein helpu i ddarparu'r canlyniadau gorau posibl i gleifion."
 
Am y tro cyntaf, mae data penodol i gyflwr yn cael eu cysylltu ar lefel genedlaethol, gan alluogi dull sy'n cael ei yrru gan ddata at wneud penderfyniadau ar gyfer clinigwyr a chleifion. Bydd yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i asesu pa ymyriadau sy'n effeithiol ac i ddarparu gofal o ansawdd.

System ddigidol yn cefnogi sgrinio canser y coluddyn
 
Mae meddalwedd a ddatblygwyd ac a gefnogir gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cefnogi rhaglen sgrinio'r coluddyn Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi lansio ymgyrch newydd gyda Bowel Cancer UK i annog rhagor o bobl gymwys i gael y prawf.
 
Mae data diweddar wedi canfod mai ychydig dros un o bob dau berson cymwys yng Nghymru sy'n cymryd y prawf ar hyn o bryd. Gall cymryd rhan yn y prawf sgrinio leihau'r perygl o farwolaeth yn sgil canser y coluddyn, a bydd cleifion naw gwaith yn fwy tebygol o oroesi canser y coluddyn os caiff ei ganfod yn gynnar.
 
Mae'r System Rheoli Gwybodaeth ar Sgrinio Coluddion (BSIMS) yn gymhwysiad diogel ar y we sy'n cefnogi'r broses sgrinio gyfan, drwy ddethol pobl o Gymru i gael eu sgrinio. Mae pobl o 60 i 74 mlwydd oed yn gymwys i gael prawf sgrinio'r coluddyn yn rhad ac am ddim yn y GIG, a hynny bob dwy flynedd. 

Anfonir pecyn sgrinio yn y cartref drwy'r post i'r bobl gymwys sy'n cael eu gwahodd i brawf sgrinio. Yna, bydd y pecyn yn cael ei ddychwelyd a'i brofi yn labordai GIG Cymru. Bydd y labordai yn defnyddio BSIMS i ddilyn hynt y pecynnau, i gofnodi'r canlyniadau ac i gynhyrchu llythyrau canlyniadau. Bydd unrhyw un sydd â chanlyniad positif i'r prawf yn cael ei gyfeirio am ymchwiliadau pellach ac asesiad gan Ymarferwyr Sgrinio Arbenigol. Mae BSIMS yn cefnogi'r broses gyda modiwl archebu clinig ac mae'n darparu dyddiadur a ffurflen asesu ar-lein ar gyfer ymarferwyr sgrinio arbenigol.
 
Canser y coluddyn yw'r ail ganser mwyaf angheuol ymysg dynion a menywod yng Nghymru.  Bydd sgrinio'r coluddyn yn canfod canser y coluddyn yn gynnar, yn aml pan na fydd unrhyw symptomau, a phan fydd triniaeth ar ei mwyaf effeithiol.
 
Caiff y feddalwedd sgrinio coluddion a ddatblygwyd yng Nghymru ei defnyddio yng Ngogledd Iwerddon hefyd.
 
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sgrinio'r coluddyn drwy ymweld â www.bowelscreening.wales.nhs.uk. 
Cyflawni ar gyfer angen: Sesiwn cwestiwn ac ateb gyda'r Hwylusydd Newid Busnes, Nadia Simpson, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru   
 
Un o'r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae staff GIG Cymru yn ei ofyn o ran TG, yw, "Pam mae angen hyn arnom?" neu "Beth all hyn ei wneud na all yr hen system ei wneud?"
 
Mae'r rhain yn gwestiynau rydyn ni'n eu cymryd o ddifrif. Pan fydd systemau newydd yn cael eu cyflwyno, neu pan fydd newidiadau'n cael eu gwneud, mae gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dîm o Hwyluswyr Newid Busnes sy'n mynd allan ac yn cysylltu â'r bobl sy'n defnyddio ein systemau a'n TG - gan ddatblygu cynlluniau, dadansoddi anghenion ac, yn bwysicaf oll, ateb y cwestiynau pwysig iawn hynny.
 
Buon yn siarad â Nadia Simpson, Uwch Hwylusydd Newid Busnes Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru am ei rôl. 
 
CWESTIWN: Newid Busnes? Newid beth?
Ateb: O, newid llawer o bethau! - ffordd pobl o feddwl, sut maen nhw'n gweithio, gan newid eu canfyddiadau o dechnoleg. Er enghraifft, rydyn ni'n edrych ar wahanol ffyrdd o weithio a sut y bydd technoleg yn gwella eu prosesau. Gall tîm y prosiect ein cyflogi ar unrhyw adeg yn ystod y prosiect i weithredu drostynt. Gallai fod yn rhan o'r cam cyn gweithredu, yn rhan o'r gweithredu, neu'r cam ar ôl gweithredu. Ar bob cam, rydym yn defnyddio gwahanol sgiliau i helpu llinell sylfaen y rheolwr prosiect, i gyflwyno'r prosiect ac i gasglu adborth yn y drefn honno.  
 
CWESTIWN: A allwch chi roi enghraifft inni?
Ateb: Wel, rwy'n gweithio ar baratoi Porth Clinigol Cymru. Felly, os ystyriwn Geisiadau Prawf Electronig (ETR). Bydd bwrdd iechyd yn gofyn inni helpu i gynyddu'r defnydd ohonynt. Byddwn yn dysgu yn union beth mae gofyn am brawf electronig yn ei olygu - pa fathau o brofion sydd angen eu gwneud a ble, beth sy'n digwydd yn y labordy unwaith y daw'r prawf i mewn - a byddwn yn mynd i'r wardiau ac yn dysgu'n union beth sydd ei angen ar y defnyddwyr. Byddwn yn edrych ar ystadegau gyda'r bwrdd iechyd, yn dadansoddi pa adrannau sydd angen help a chefnogaeth, yn archebu sesiynau hyfforddi ETR, yn cynnal cyfarfodydd hyfforddi ac arddangos yn y fan a'r lle. Mae gan bob bwrdd iechyd neu ward wahanol anghenion.
 
CWESTIWN: Felly, fyddwch chi'n edrych ar ble all pethau gael eu gwella a gweithio gyda nhw?
Ateb: Byddwn, yn union. Rydyn ni'n cofnodi'r holl broblemau sydd ganddyn nhw. Rydym yn siarad â rheolwyr prosiect, timau prosiect y byrddau iechyd a thimau technegol, oherwydd yn aml iawn, yr anghenion caledwedd neu TG sydd angen eu bodloni. Felly ein gwaith ni yw sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda phawb i ddod o hyd i ffyrdd o wella'r sefyllfa bresennol.
 
CWESTIWN: Byddem yn dychmygu mai un o agweddau anoddaf y swydd yw sicrhau bod pawb yn cytuno ac yn mynd ar drywydd cyffredin.
Ateb: Ie! Wrth gwrs, mae angen gwneud ychydig o waith seicoleg a marchnata.  Ond nid ydym yn mynd allan i werthu. Nid ydym yn werthwyr. Mae hyn yn ymwneud â dangos buddion prosiect neu ddangos buddion y systemau i'r defnyddiwr. Rydym yn gweithio ar Borth Clinigol Cymru. Felly, er enghraifft, byddwn yn rhoi awgrymiadau i staff ar sut i gael y gorau ohono - byddwn yn rhoi awgrymiadau bach iddynt fel sut i ddewis tudalen lanio ddiofyn. Rydym yn addasu ein dull yn unol ag anghenion y defnyddiwr a sut mae Porth Clinigol Cymru yn gweddu â'i ffordd o weithio. Yn y pen draw, llesiant y claf sy'n bwysig. Maent oll yn 'gwsmeriaid' i ni.  Rydym yn asesu'r buddiannau ar sail yr hyn mae'n ei wneud er lles y claf.
 
CWESTIWN: Faint o brosiectau ydych chi'n gweithio arnyn nhw ar unrhyw adeg benodol a faint o staff sydd gennych?
Ateb: Fel cyfanwaith, mae gennym dîm o bedair ar ddeg - bydd yn ddwy ar bymtheg yn fuan. Rydym yn gweithio ar nifer o wahanol brosiectau ledled Cymru, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig â Phorth Clinigol Cymru, ond mae gan System Gweinyddu Cleifion Cymru a Gwybodeg Canser eu timau eu hunain hefyd. Er enghraifft, mae system rheoli diabetes yr ydym yn ymwneud â hi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar hyn o bryd, sy'n dangos sut y bydd y system yn gwella gofal i gleifion. Ond, oherwydd ei bod yn berthnasol, byddwn yn siarad â nhw am bortffolio cyfan Porth Clinigol Cymru a pha rannau eraill o Borth Clinigol Cymru y gallai fod eu hangen arnynt.
 
CWESTIWN: Mae'n rhaid bod gennych nifer o straeon o lwyddiant felly?
Ateb: Mae gennym lu o straeon o lwyddiant. ETR, er enghraifft? Ddiwedd y llynedd yn Singleton [Ysbyty yn Abertawe], dros gyfnod o ddeuddeg wythnos, gwnaethant gynyddu'r defnydd ohono o 29% i 61%. Yn Nhywysoges Cymru [Ysbyty ym Mhen-y-bont ar Ogwr] cynyddodd y defnydd o tua 20% i 51%. Bu cynnydd o ran ei ddefnydd yn Nevill Hall [y Fenni] hefyd. Mae gennym lawer o straeon o lwyddiant. Ond rydyn ni'n gweithio'n galed i gyflawni hynny. Bob mis, rydym yn ymgysylltu â bron i 200 o bobl ac mae'r ffigur hwn yn tyfu bob mis! Rydyn ni'n brysur ond yn mwynhau pob munud ohono.
Hwb i ofal diabetes gan nodwedd drawsnewidiol Porth Clinigol Cymru 
 
Mae'r offeryn Nodiadau Ymgynghorydd Diabetes, sydd ar gael trwy Borth Clinigol Cymru, o fudd i gleifion diabetes a'u clinigwyr trwy symleiddio apwyntiadau, lleihau amseroedd aros clinigau a dod â nodiadau cleifion ynghyd mewn un lle.
 
Dywed Dr Gautam Das yn Ysbyty Tywysog Cymru Merthyr Tudful fod y nodwedd yn "drawsnewidiol." Mae Dr Das yn siarad â ni yn ein fideo YouTube diweddaraf , am ba mor arloesol yw'r nodwedd a sut mae'n helpu ei gleifion.
HaemBase Cymru yn mynd yn fyw yng Nghaerdydd a'r Fro
 
Mae rhan gyntaf HaemBase Cymru, y Daflen Parhad Cleifion Allanol, bellach yn fyw ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Dechreuodd gael ei ddefnyddio gan yr Haematolegydd Ymgynghorol Dr Ceri Bygrave a'r tîm Myeloma yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar 12 Rhagfyr 2019.
 
Ers hynny, mae'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr ymgynghoriad cleifion allanol wedi dod yn rhan o'r cofnod cleifion digidol sengl, y gellir ei gyrchu'n electronig trwy Borth Clinigol Cymru, gan sicrhau bod y cofnod gofal haematolegol ar gael ledled Cymru i'r holl weithwyr proffesiynol clinigol sydd angen mynediad iddi i barhau â gofal y claf.
 
Mae HaemBase Cymru yn gyfres o swyddogaethau digidol y gellir eu cyrchu trwy Borth Clinigol Cymru, a ddyluniwyd gyda haematolegwyr ac a adeiladwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru fel rhan o'r cynllun cenedlaethol i sicrhau aliniad â systemau cenedlaethol cyfredol. Mae'n ddatrysiad data ar gyfer malaeneddau haematolegol sy'n casglu data yn gywir yn ystod triniaeth canser y claf, gan roi anghenion cleifion yn gyntaf ac asesu effaith triniaeth ar ganlyniadau cleifion er mwyn gwella ansawdd eu bywydau.
 
Ar ôl y gwerthusiad cychwynnol yn y Clinig Myeloma yn Ysbyty Athrofaol Cymru ym mis Ionawr, bydd iteriadau pellach o'r Daflen Parhad Cleifion Allanol yn cael eu rhyddhau i ddarparu ar gyfer pob malaenedd haematolegol ac i'w cyflwyno mewn clinigau haematoleg eraill.
 
Disgwylir i fersiwn gyntaf y swyddogaethau, ar gyfer ei defnyddio yng nghyfarfodydd y Tîm Amlddisgyblaethol, gael ei datblygu eleni hefyd. 

"Mae hwn yn ddatblygiad rhyfeddol ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru. Bydd yr hyn sy'n cael ei ddatblygu ym maes myeloma ar gael yn fuan ar gyfer pob claf haemato-oncoleg, a bydd yn lasbrint ar gyfer gwasanaethau canser tiwmor solet yn y dyfodol hefyd. Dyma'r union beth y mae clinigwyr wedi bod yn aros amdano a bydd yn mawr gefnogi cyfathrebu rhwng yr holl weithwyr proffesiynol ar hyd lwybr y claf. Mae Ceri, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, a'r tîm datblygu ehangach yn haeddu cael eu diolch am ddatblygu hyn dros Gymru."
Yr Athro Tom Crosby OBE, Oncolegydd Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru,
Arweinydd Clinigol ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau Canser
 
"Mae'n wych dechrau'r ddegawd newydd heb bapur, yn casglu data yn electronig yn y clinig cleifion newydd, a'u rhannu ar unwaith â chydweithwyr ledled Cymru! Mae HaemBase yn ddatrysiad cenedlaethol ar gyfer pob malaenedd haematolegol a bydd yn darparu'r data y mae pob claf a chlinigydd eu hangen."
Dr Ceri Bygrave, Haematolegydd Ymgynghorol (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro)

Byddwn yn eich diweddaru ar y cynnydd. Os oes gennych ymholiadau am y prosiect, cysylltwch ag Alessandra Veronese - Rheolwr Prosiect Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru - [email protected]