March 2020
Awst 2020
Urddo Helen Thomas yn Gymrawd Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain  

Mae Helen Thomas, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, wedi dod yn Gymrawd Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain. Mae rhaglen gymrodoriaeth Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain yn cydnabod arweinwyr TG sy'n arloesi ac yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, ac sy'n haeddu cael sylw am eu cyfraniad.  
 
Bellach, mae Helen yn edrych ymlaen at ennill statws Ymarferydd Arweiniol Federation of Informatics Professionals, o ganlyniad i gael ei hurddo'n Gymrawd Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain.
Cofnodi Canlyniadau Profion Gwrthgyrff ar Ddyfeisiau Symudol

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi datblygu cymhwysiad sy'n caniatáu i fyrddau iechyd yng Nghymru gofnodi canlyniadau profion gwrthgyrff llif unffordd ar gyfer dinasyddion Cymru ar ddyfais symudol.

Mae'r cymhwysiad eisoes wedi'i ddefnyddio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gofnodi canlyniadau dros wyth mil o athrawon yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer profion gwrthgyrff llif unffordd COVID-19.

Gall profion llif unffordd ddod o hyd i bresenoldeb gwrthgyrff COVID-19 trwy ddefnyddio sampl hylif fach heb fod angen offer ac adnoddau labordy costus ac arbenigol.  Trwy ddefnyddio'r cymhwysiad hwn, caiff canlyniadau eu nodi'n ddigidol a'u cofnodi mewn cronfa ddata, a chaiff dinasyddion eu hysbysu o'r canlyniad ar unwaith.
 
Bellach, mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru mewn trafodaethau am gyflwyno'r cymhwysiad i fyrddau iechyd Bae Abertawe, Cwm Taf a Betsi Cadwaladr.

Tîm Newid Busnes yn Cefnogi Unedau Profi Cymunedol

Mae Tîm Newid Busnes Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi'i gydnabod gan reolwyr byrddau iechyd am ei gyflymdra a'i barodrwydd i helpu wrth ddarparu hyfforddiant a chymorth i staff mewn Unedau Profi Cymunedol. 
 
Ers mis Ebrill, mae 25 Uned Brofi Gymunedol wedi'u sefydlu ledled Cymru i brofi cleifion am COVID-19.  Caiff y ceisiadau am y profion hyn a'u canlyniadau eu symleiddio'n ddigidol trwy offeryn gwneud cais am brawf yn electronig (ETR) Porth Clinigol Cymru, gan leihau llwyth gwaith labordai a chamgymeriadau trawsgrifio. Mae ein Tîm Newid Busnes yn darparu cymorth a hyfforddiant cenedlaethol ar yr ETR i nyrsys a staff gweinyddol yr Unedau Profi Cymunedol.
 
Mae Rachel Armitage, Rheolwr Ansawdd a Diogelwch Caerdydd a'r Fro yn goruchwylio tair Uned Brofi Gymunedol yn ei bwrdd iechyd, gan gynnwys y safle profi yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn Lecwydd.  
 
"Rwy'n ddiolchgar iawn am y cymorth a'r hyfforddiant amhrisiadwy a roddodd Tîm Newid Busnes Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i staff Unedau Profi Cymunedol Caerdydd a'r Fro," meddai Armitage. "Gorfu i Uned Brofi Gymunedol Lecwydd gael ei chwblhau o fewn amserlen dynn a bu'n rhaid hyfforddi 45 o staff o fewn wythnos, gan gydymffurfio â'r mesurau cadw pellter cymdeithasol yr un pryd.  Yn y ddwy uned brofi arall ar safle'r bwrdd iechyd, cynigiwyd profion i staff a gweithwyr allweddol ac roedd ymdrechion Tîm Newid Busnes Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn golygu ein bod yn gallu gosod unedau profi yn gyflym ac yn effeithlon.  Roedd hyn, yn ei dro, yn golygu bod staff yn gallu dychwelyd i'r gwaith, gan gynnal gwasanaethau'r bwrdd iechyd yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn."
Cynnwys Ymateb Digidol GIG Cymru i COVID-19 ym Mwletin Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae bwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru y mis hwn yn cynnwys erthygl ar sut mae datblygiadau digidol wedi caniatáu i GIG Cymru addasu gwasanaethau'n gyflym mewn ymateb i COVID-19.

Gallwch ddarllen y bwletin yma.

Ydych chi eisiau gweithio wrth wraidd arloesi digidol ar gyfer GIG Cymru?  Rydym yn recriwtio ar gyfer amrywiaeth o swyddi a phrentisiaethau ar hyn o bryd.
 
Cymerwch olwg ar ein tudalen swyddi gwag i ddod o hyd i'r holl gyfleoedd sydd ar gael.