Gorffenaf 2021
Ymddiheuriadau, gwnaethom gynnwys dolen wedi torri yn ddamweiniol yn stori newyddion pasbort brechu Cymru. Dewch o hyd i'r ddolen gywir i wefan Llywodraeth Cymru isod.
Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch o alluogi pasbort brechu Cymru 
Rydym yn helpu i roi mynediad i bobl Cymru at dystysgrifau ‘pasbort’ brechu. 
 
Mae ein harbenigwyr technoleg a data wedi bod yn cydweithio ag NHS Digital i ddatblygu datrysiad i sicrhau bod data brechu Cymru ar gael trwy wasanaeth Pàs COVID digidol NHS England. 
 
Mae hyn yn golygu y gall pobl yng Nghymru gael mynediad i'w statws brechu ar y rhyngrwyd bellach os oes angen iddynt deithio ar frys a chwrdd â'r gofynion brechu sy'n berthnasol i'r wlad y maent yn teithio iddi. Gellir cael mynediad at Bàs COVID y GIG yma.
 
Ar y diwrnod cyntaf (25 Mehefin) uwchlwythodd DHCW dros 3.7 miliwn o gofnodion i wasanaeth pàs COVID, ac mae llifoedd data parhaus yn cadw cofnodion brechu yn gyfredol. 
 
Gwnaethom hefyd ddatblygu'r feddalwedd a'r gronfa ddata sydd eu hangen i reoli ceisiadau gan bobl sy'n gofyn am lythyr pàs COVID. 
 
Mae llythyrau pàs COVID y GIG wedi bod ar gael yng Nghymru ers mis Mai ar gyfer y rhai sydd angen teithio'n rhyngwladol ar frys a darparu prawf o'u statws brechu, ac mae tystysgrifau'n cael eu hanfon yn y post. Gwnaed cais am dros 18,000 hyd yma. Bydd y llythyrau’n parhau i gael eu cyhoeddi dim ond i bobl nad ydynt yn gallu cael gafael ar Bàs digidol trwy Wasanaeth Ardystio Brechiadau Cymru (WVCS), sy’n cael ei gynnal gan dîm olrhain cysylltiadau Cyngor Abertawe. Gall pobl wneud cais am Bàs COVID y GIG dwyieithog ar ffurf llythyr drwy ffonio 0300 303 5667. 
 
Nid yw Ap y GIG a ddefnyddir yn Lloegr ar gael i bobl ei ddefnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd. 
Mae mynediad at ganlyniadau geneteg yn caniatáu triniaethau canser mwy personol

Bellach, mae meddygon yng Nghymru yn gallu cael mynediad at ganlyniadau profion genetig digidol ar gyfer cleifion canser brys, yn dilyn diweddariad i Borth Clinigol Cymru yn ddiweddar.
 
Mae gallu gweld y data ychwanegol hyn yn golygu y gall clinigwyr nodi a allai newidiadau genetig mewn cleifion effeithio ar eu triniaeth, a bydd hyn yn caniatáu datblygu cynlluniau triniaeth mwy personol.
 
Meddai Dr Samantha Cox, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol:
“Mae'r defnydd o brofion genetig mewn oncoleg yn cynyddu'n gyflym ac yn cynnig cyfle cyffrous i deilwra triniaeth i gleifion y canfyddir bod ganddynt rai newidiadau yng nghyfansoddiad genetig celloedd yn eu gwaed neu yn eu tiwmor. Fodd bynnag, er mwyn nodi cleifion addas a sicrhau bod triniaethau canser yn cael eu rhoi yn ddiogel ac yn amserol, mae'n hanfodol bod pob aelod o'r tîm amlddisgyblaethol yn gallu cael mynediad at yr adroddiad cyfan gwreiddiol, ni waeth pa fwrdd iechyd neu arbenigedd a ofynnodd am y prawf." 
 
"Mae uwchlwytho adroddiadau genomeg canser AWMGS ar Borth Clinigol Cymru yn ddatblygiad gwasanaeth gwych sydd eisoes o fudd i ofal cleifion, yn enwedig o ystyried y symudiad diweddar i feddygaeth rithwir a gweithio o bell yn ystod COVID19. Bellach, mae canlyniadau'n cael eu dogfennu'n ddiogel a'u harbed mewn lleoliad canolog, electronig ac wrth i adroddiadau gael eu chwilio'n hawdd (gan ddefnyddio'r swyddogaeth hidlo 'GEN' ar dab 'Tests' Porth Cinigol Cymru), arbedir amser clinigol, sy'n golygu y gallwn ganolbwyntio ar gynllunio a darparu gofal cleifion yn hytrach na cheisio cael gafael ar ganlyniadau. Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran sydd wedi gweithio i gyflawni hyn yn gyflym, er gwaethaf heriau'r 12 mis diwethaf”.
 
Mae'r data, sydd bellach ar gael ym Mhorth Clinigol Cymru trwy Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, yn cynnwys canlyniadau profion canser brys sy'n cwmpasu ystod o wahanol fathau o ganser.
 
Mae Porth Clinigol Cymru ar gael i glinigwyr ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru ac mae'n gweithio trwy rannu ac arddangos gwybodaeth am gleifion yn ddigidol o nifer o ffynonellau trwy fewngofnodi unwaith, hyd yn oed os yw'r wybodaeth honno wedi’i harbed ar draws gwahanol sefydliadau iechyd. Mae cael yr wybodaeth mewn un lle yn golygu bod gan glinigwyr bob amser fynediad at gofnodion cywir a chyfredol cleifion.
 
Mae'r system bellach ar gael fel ap symudol, ac fe’i defnyddir ar hyn o bryd gan fwy na 27,000 o weithwyr iechyd proffesiynol yn GIG Cymru.
Gwell mynediad at wybodaeth am gleifion ar gyfer Dewis Fferyllfa
Bydd fferyllwyr cymunedol yng Nghymru yn cael gwell mynediad at gofnodion meddygol meddygon teulu cleifion fel rhan o’r gwasanaeth Dewis Fferyllfa, i’w helpu i ofalu am fwy o bobl â mân afiechydon.
 
Mae cytundeb newydd rhwng GPC Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn golygu y bydd fferyllwyr yn cael mynediad at gofnod meddyg teulu Cymru claf, gyda’i gysyniad, i gefnogi gwneud penderfyniadau diogel ac effeithiol.
 
Mae fferyllwyr cymunedol ledled Cymru eisoes yn gallu defnyddio'r gwasanaeth Dewis Fferyllfa i gael mynediad at gofnod meddyg teulu’r claf i gefnogi rhai agweddau ar ofal, megis ar gyfer presgripsiynau am feddyginiaeth frys neu i'w ddefnyddio gan fferyllwyr sydd hefyd yn Bresgripsiynwyr Annibynnol.
 Defnyddir Dewis Fferyllfa hefyd i gofnodi ymgynghoriadau, rhannu gwybodaeth â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthnasol, a chynhyrchu hawliadau am daliad. 
 

Mae cymeradwyaeth gan GPC Cymru bellach yn golygu y gellir datblygu Dewis Fferyllfa i gynnwys mynediad Cofnod Meddygon Teulu Cymru ym mhob modiwl cyfredol ac yn y dyfodol. Cyfyngir mynediad at Gofnod Meddygon Teulu Cymru i ddefnyddwyr fferylliaeth gymunedol sydd wedi'u hachredu'n briodol.
Gan fod llawer o fferyllfeydd yn cynnig nifer cynyddol o wasanaethau GIG Cymru, mae angen mynediad i fferyllwyr cymwys at gofnod meddygol y claf i sicrhau gofal diogel ac effeithiol.
 
Croesawodd Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Llywodraeth Cymru y cytundeb, ac fe ddywedodd:

“Mae’r cytundeb rhwng GPC Wales ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gam pwysig ymlaen o ran rhoi mynediad i fferyllwyr sy’n gweithio yn y gymuned at yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw er mwyn iddyn nhw ddarparu gofal fferyllol o’r safon uchaf. Mae rhoi mynediad ehangach i fferyllfeydd cymunedol at Gofnod Meddygon Teulu Cymru yn cydnabod y cyfraniad clinigol cynyddol y gall fferyllwyr cymunedol ei wneud i wella iechyd pobl Cymru.”

Mae'r Nyrs Imiwneiddio Arbenigol, Hayley Gayle, yn rhan o'r tîm imiwneiddio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy'n cyflwyno'r rhaglen frechu COVID-19 sy'n arwain y byd.
 
Gan weithio yng Nghanolfan brechu torfol Raven’s Court ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae Hayley yn defnyddio System Imiwneiddio Cymru i reoli, dosbarthu ac adrodd am frechiadau. Dywedodd Hayley wrthym sut mae System Imiwneiddio Cymru yn ei helpu i weithio’n fwy effeithlon a pham ei bod yn credu bod y system yn chwarae rhan hanfodol o ran Cymru’n arwain y ffordd gyda brechiadau COVID-19.