Ebrill 2021
Iechyd a Gofal Digidol Cymru lansio
Crëwyd y sefydliad newydd i symud trawsnewid digidol ymlaen, a bydd yn darparu’r gwasanaethau technoleg a data cenedlaethol sydd eu hangen ar gleifion a chlinigwyr. 

Yn Awdurdod Iechyd Arbennig gyda Chadeirydd a Bwrdd annibynnol, mae’n disodli Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, ac mae hyn yn dangos pwysigrwydd y byd digidol a data mewn iechyd a gofal modern. 

Mae Cymru Iachach, cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal, yn nodi bod datblygu gwasanaethau digidol yn allweddol er mwyn darparu gwasanaethau sy’n addas at y dyfodol.
 
Meddai Bob Hudson OBE, Cadeirydd dros dro: “Mae technoleg yn newid yn gynt nag erioed. Rydym wedi gweld sut mae gweithredu technoleg newydd yn gyflym wedi cefnogi ymateb GIG Cymru i’r pandemig, gyda dros 5,000 o ymgynghoriadau fideo bob wythnos, platfform olrhain cysylltiadau cenedlaethol a system frechu. Ond mae mwy i’w wneud.  

Mae’r cyfnod hwn yn drobwynt, lle gall technolegau newydd drawsnewid y modd y caiff gofal iechyd ei ddarparu, a bydd yr Awdurdod Iechyd Arbennig newydd yn sicrhau bod Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro hwn.” 


Fel un o’r ychydig genhedloedd lle gall data cleifion eu dilyn o gwmpas y system, mae Cymru mewn sefyllfa dda i osod y byd digidol wrth wraidd iechyd a gofal.  

Wrth symud ymlaen, mae’r Awdurdod Iechyd Arbennig newydd yn nodi newid mewn pwyslais sy’n canolbwyntio ar ddarparu, arloesi a chefnogi iechyd a llesiant unigolion.”  

Meddai Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol dros dro: “Mae creu Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gam cadarnhaol iawn sy’n caniatáu i ni gefnogi’r system ehangach, gyda’r fantais o raddfa pan mae’n bwysig, ynghyd â dealltwriaeth o anghenion iechyd ein cymunedau. 

Dyma adeg gyffrous a dechrau cyfnod newydd i iechyd a gofal digidol. Mae technoleg yn esblygu ac mae’r pandemig wedi dangos na fu erioed yn bwysicach i’n GIG. Yn awr, rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â chleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol i arloesi, symud ymlaen a sicrhau bod technoleg a data’n gweithio er gwell iechyd.” 

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi’i sefydlu’n gorff cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o deulu GIG Cymru. 
Bwrdd newydd ar waith

Penodwyd pum aelod annibynnol, cadeirydd ac is-gadeirydd i Fwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Ar hyn o bryd mae'r bwrdd yn cynnwys cyfarwyddwyr ac mae ganddo ysgrifennydd, a bydd dau aelod newydd yn cael eu penodi cyn bo hir. Cliciwch isod i gael rhagor o wybodaeth am holl aelodau'r bwrdd.

Mynediad digidol i ddelweddau cleifion yn rhoi'r darlun llawn i feddygon
Erbyn hyn, gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru weld delweddau o'u cleifion – fel pelydrau-X a sganiau MRI – trwy glicio ar un botwm yn unig.

O’r blaen, byddai'n rhaid i feddygon fynd trwy sawl system, neu aros i dderbyn copi caled neu sgan, pe bai'r delweddau'n cael eu tynnu mewn lleoliadau eraill. Nawr, mae delweddau pob claf ar gael, ni waeth ble mae’n derbyn gofal yng Nghymru.

Mae'n golygu y gall cleifion dderbyn gofal yn gyflymach, a gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gydweithredu'n haws ar y gofal gorau i gleifion. Dywedodd Eve Gallop-Evans, Ymgynghorydd yn Ysbyty Felindre, “Mae gallu gweld delweddau sgan o gleifion canser, ble bynnag maen nhw, yn hanfodol i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Gallaf roi barn ar addasrwydd ar gyfer triniaeth heb orfod gofyn am y sganiau perthnasol.  Mae gallu gweld sganiau MRI yn hwyluso darparu radiotherapi brys y tu allan i oriau.”
Edrychir ar y delweddau trwy ddefnyddio Porth Clinigol Cymru – y system gwybodaeth cleifion genedlaethol a grëwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

Dywedodd Rhidian Hurle, Prif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru, “Mae'r swyddogaeth hon yn ei gwneud hi'n haws i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru weld yr hyn y mae angen iddynt ei weld i drin cleifion ni waeth ble y perfformiwyd y profion delweddu ac mae'n newyddion gwych i gleifion a GIG Cymru”

Mae Porth Clinigol Cymru yn gofnod cleifion digidol a ddefnyddir ar draws ysbytai a byrddau iechyd yng Nghymru. Gall meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol gael mynediad ato drwy ddefnyddio ap. Mae'r system bellach ar gael fel ap symudol, ac fe’i defnyddir ar hyn o bryd gan fwy na 27,000 o weithwyr iechyd proffesiynol yn GIG Cymru.
Desgiau gwasanaeth cenedlaethol a lleol wedi’u huno

In Yn unol â'r penderfyniad i ddod yn awdurdod iechyd arbennig, rydym wedi uno timau Desg Wasanaeth Gofal Sylfaenol a Desg Wasanaeth Leol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Yr enw ar y tîm newydd fydd Desg Wasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Bydd cyfeiriad e-bost Desg Wasanaeth Gofal Sylfaenol a chyfeiriad e-bost Desg Wasanaeth Leol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn parhau i weithio a bydd yr holl negeseuon e-bost yn cael eu hanfon ymlaen at gyfrif newydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Bellach, yr URL ar gyfer ein Porth Hunanwasanaeth yw https://dhcw-service-portal.wales.nhs.uk/.

Bydd gwefannau Desg Wasanaeth Gofal Sylfaenol a Desg Wasanaeth Leol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cael eu datgomisiynu erbyn Gorffennaf 2021. Y Porth Hunanwasanaeth fydd y prif safle ar gyfer cefnogaeth, newyddion, diweddariadau a chanllawiau cymorth.

 Bellach, y prif rif ffôn allanol i gysylltu â Desg Wasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw 0333 200 8048.
Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Ymateb Eithriadol i COVID-19

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr Ymateb Eithriadol i COVID-19 yng Ngwobrau GO Cymru eleni. Gallwch ddod o hyd i fanylion y categorïau a'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar eu gwefan.
 
Cyhoeddir y gwobrau ar-lein ar 29 Ebrill, a gallwch gofrestru i wylio yma: https://www.goawards.co.uk/wales/go-awards-tickets/.
Ymunwch â'n tîm

Ydych chi am wneud gwahaniaeth i ofal cleifion? Trwy weithio i Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gallwch fod yn rhan o'r chwyldro digidol ym maes gofal iechyd, gan ddatblygu a darparu gwasanaethau newydd ar gyfer staff gofal iechyd a chleifion.

Yn ddiweddar, gwnaeth Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain ein henwi fel y ‘Lle Gorau i Weithio ym maes TG yn y DU’ ac rydym yn cynnig gweithio hyblyg, cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol ac ystod o fuddion, gan gynnwys cymorth ar gyfer gofal plant. Cymerwch gip ar ein swyddi gwag diweddaraf.