Neidio i'r prif gynnwy

Gweithgarwch chwarterol

Crynodeb o weithgarwch chwarterol

×

Gwybodaeth cryno

 

Disgrfiad cyffredinol

Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru, Ystadegau Chwarterol.

 

Casgliad data a dull cyfrifo

Mae'r ystadegau chwarterol hyn yn cyflwyno gwybodaeth gryno am wasanaethau triniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys data ar weithgaredd yn ôl cyffur ac alcohol. Mae'r data ond yn berthnasol i bobl sy'n derbyn triniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau ac, o ganlyniad, mae ond yn cynrychioli cyfran o'r holl bobl sy'n camddefnyddio sylweddau.

Ffynhonnell y data yw Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau (WNDSM). Mae'n cynnwys manylion yr holl atgyfeiriadau i asiantaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru, ac fe'i cedwir gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae'r gronfa ddata yn ddeinamig, hynny yw, mae cofnodion yn cael eu diwygio wrth i fwy o wybodaeth gael ei chyflwyno gan asiantaethau. Mae hyn yn golygu y bydd ffigurau o'r pedwar chwarter blaenorol yn cael eu diwygio, a dylid ystyried hyn wrth ddehongli'r data. O ganlyniad, y pumed tro y bydd ddata yn cael ei gyhoeddi ar gyfer chwarter penodol, bydd yn cael ei nodi fel “terfynol” tan yr amser hwn bydd y data yn cael ei nodi fel "dros dro". Mae data ar y pwnc hwn hefyd yn cael ei gyhoeddi mewn adroddiad blynyddol ym mis Hydref. Noder nad yw'r ystadegau chwarterol a blynyddol yn gymaradwy yn uniongyrchol, yn bennaf gan nad yw cleientiaid na fynychodd mewn cyfnod cynnar iawn h.y. cyn asesiad, wedi'u cynnwys yn nhablau'r adroddiad blynyddol ond eu bod wedi'u cynnwys yma yn yr ystadegau chwarterol.

 

Mae rhywfaint o'r data a gyflwynir yn cael ei ddefnyddio i fesur Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) i gefnogi'r gwaith o reoli perfformiad gwasanaethau triniaeth camddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys dangosydd perfformiad i gyflawni amser aros o 20 diwrnod gwaith ar y mwyaf rhwng atgyfeirio a dechrau triniaeth. Mae'r dangosydd hwn hefyd wedi'i gynnwys yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Gall asesiadau, dyddiadau dechrau triniaeth a dyddiadau cau ymwneud ag unrhyw atgyfeiriad ers mis Ebrill 2005 pan sefydlwyd y gronfa ddata.

 

Amlder cyhoeddi

Chwarterol

 

Cyfnodau data dan sylw

Ebrill 2021 tan Mehefin 2023

 

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

I gael gwybodaeth am ddefnyddwyr, defnyddiau a chyd-destun, dilynwch y ddolen i'r cyhoeddiad blynyddol a'r Adroddiad Ansawdd.

 

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Ym mhob cyhoeddiad chwarterol, mae data ar gyfer y pedwar chwarter blaenorol yn cael ei ddiwygio er mwyn cynnwys newidiadau i gofnodi

×

Teitl

Crynodeb o weithgaredd chwarterol

Diweddariad diwethaf

15th Tachwedd 2023

Diweddariad nesaf

Chwefror 2024

Sefydliad cyhoeddi

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cyswllt ebost

substancemisuse-queries@wales.nhs.uk

Dynodiad

Gwybodaeth reoli

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

×

Allweddeiriau

Camddefnyddio Sylweddau

×

Ansawdd ystadegol

 

Adroddiad ansawdd:

 

Mae'n ofynnol i bob Darparwr Gwasanaethau sy'n derbyn cyllid Llywodraeth Cymru, naill ai'n uniongyrchol neu drwy'r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, i ddarparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau gydymffurfio'n llawn â gofynion adrodd y gronfa ddata.

Ymchwilir i unrhyw gofnod sydd yn ymddangos yn anghywir ond nid yw’n bosibl bob amser i asiantaethau triniaeth, yn enwedig y rhai llai, i wirio a diweddaru eu cofnodion. Mae Timau Cynghori Rhanbarthol ar Gamddefnyddio Sylweddau (SMARTs) Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda gwasanaethau triniaeth i wella ansawdd data. At ddibenion y cyhoeddiad hwn, dyma'r materion ansawdd data sy'n effeithio ar yr ystadegau hyn:

Mae rhai asiantaethau yn methu â chau achosion lle mae cleient yn cael ei drosglwyddo rhwng asiantaethau. Mae hyn yn golygu y bydd rhai unigolion yn cael eu cyfrif fwy nag unwaith ar y gronfa ddata.

Mae’n bosibl bod rhai dyddiadau atgyfeirio ac/neu driniaeth wedi eu hychwanegu’n anghywir at gofnodion cleientiaid gan arwain at oedi hirach na’r disgwyl ar gyfer triniaeth. Ymchwilir i unrhyw gofnod sydd yn ymddangos yn anghywir ond nid yw’n bosibl bob amser i asiantaethau triniaeth, yn enwedig y rhai llai, i wirio a diweddaru eu cofnodion.

Trosglwyddwyd nifer o asiantaethau i System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn 2022. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynhyrchu detholiad cenedlaethol rheolaidd o'r system, a hyd nes y cwblheir yr adrodd, mae'n debygol y bydd bylchau yn y data a gyflwynir.

Gweithgaredd
Ebr-Meh 2021 ⓘ
Diwygiedig a terfynol. Data fel 30th Medi 2022
Gor-Med 2021 ⓘ
Diwygiedig a terfynol. Data fel 31st Rhagfyr 2023
Hyd-Rhag 2021 ⓘ
Diwygiedig a terfynol. Data fel 31st Mawrth 2023
Ion-Maw 2022 ⓘ
Diwygiedig a terfynol. Data fel 31st Gorffennaf 2023
Ebr-Meh 2022 ⓘ
Diwygiedig a terfynol. Data fel 30th Medi 2023
Gor-Med 2022 ⓘ
Diwygiedig a dro do. Data fel 30th Medi 2023
Hyd-Rhag 2022 ⓘ
Diwygiedig a dro do. Data fel 30th Medi 2023
Ion-Maw 2023 ⓘ
Diwygiedig a dro do. Data fel 30th Medi 2023
Ebr-Meh 2023 ⓘ
Dros do. Data fel 30th Medi 2023
Atgyfeiriadau ⓘ
Mae cyfeiriadau yn cynnwys cyfeiriadau cyn asesiad.
6,585 7,167 6,426 7,227 7,559 7,583 7,354 8,213 6,789
Asesiadau ⓘ
Gall ymwned ag unrhyw atgyfeiriad ers mis Ebrill 2005.
4,315 4,459 4,207 4,554 4,468 4,240 4,090 4,639 4,019
Dechreuwyd triniaeth ⓘ
Gall ymwned ag unrhyw atgyfeiriad ers mis Ebrill 2005.
3,550 3,720 3,447 3,802 3,650 3,682 3,703 4,099 3,522
Pob achos a gaewyd yn ystod y chwarter ⓘ
Gall ymwned ag unrhyw atgyfeiriad ers mis Ebrill 2005.
6,194 6,979 6,526 7,018 7,334 7,657 7,184 7,099 6,687
Achosion a gyfeiriwyd sydd dal ar agor ⓘ
Noder bod y chwarter diweddaraf yn tueddu i fod a nifer uwch o gofnodion agored o'i gymharu a'r chwarteri blaenorol oherwydd derbyniwyd llai o.
668 895 743 578 591 774 1,062 1,848 2,365