Neidio i'r prif gynnwy
Llun proffil o Sam lloyd - Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau
Sam Lloyd

Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau

Mae gan Sam bedair blynedd ar bymtheg o brofiad mewn rolau arwain technoleg yn y sector iechyd, gan gynnwys yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Lloegr ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA). Mae’n teimlo’n angerddol dros ddefnyddio’r maes digidol, technoleg a data i wella canlyniadau iechyd y cyhoedd.

Mae Sam yn ymuno ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru o UKHSA, lle mae wedi arwain y swyddogaeth Gwasanaethau Technoleg, gan gynnwys y cwmwl, DevOps, arferion rheoli gweithle a gwasanaeth defnyddwyr, a bu’n chwarae rhan allweddol wrth sefydlu galluogrwydd technoleg o safon fyd-eang ar gyfer yr asiantaeth newydd.

Fel cyn Bennaeth Technoleg yn Iechyd Cyhoeddus Lloegr, bu Sam yn arwain rhaglenni newid sefydliadol, seiberddiogelwch a thrawsnewid technoleg. Arweiniodd hefyd ymateb technoleg Iechyd Cyhoeddus Lloegr i bandemig COVID-19 gan adeiladu gwasanaeth olrhain cysylltiadau cenedlaethol cyntaf Lloegr, a dangosfwrdd COVID-19 GOV.UK. Y dangosfwrdd oedd unig ffynhonnell data COVID-19 y genedl ac roedd yn cynnwys defnydd arloesol o ddigidol a thechnoleg i gyfathrebu a mesur perfformiad yr ymateb i'r pandemig cenedlaethol. Cafodd hyd at 76 miliwn o drawiadau bob dydd.

Mae Sam yn credu’n gryf mewn arweinyddiaeth gynhwysol sy’n canolbwyntio ar bobl. Pan nad yw'n gweithio, mae'n rhedwr brwd. Mae wedi cwblhau dros ddeugain o farathonau a marathonau eithafol. Mae hefyd yn mwynhau treulio amser gyda'i bartner a dau o fechgyn yn eu harddegau.