Neidio i'r prif gynnwy
Llun proffil o Ruth Glazzard - Vice Chair
Ruth Glazzard

Is-Gadeirydd

Digital Health and Care Wales

Amdanaf i

Is-Gadeirydd

Ruth yw Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru ac mae ganddi bortffolio o rôlau nad yw'n weithredoll. Yn dod o gefndir gwasanaethau ariannol, rheoleiddio a llywodraethu, mae gan Ruth brofiad sylweddol hefyd ar fyrddau fel aelod annibynnol a chadeirydd byrddau archwilio a safonau llywodraeth leol. 
 
Yn wreiddiol o dde Cymru, bu Ruth yn gweithio i fanciau a chymdeithasau adeiladu ledled y DU cyn ymuno â’r rheolydd gwasanaethau ariannol yn 2006, gan weithio mewn rolau gweithredol a rheoleiddiol yn ystod argyfwng ariannol 2008 a’r newidiadau yn y drefn reoleiddio a ddaeth yn sgil hynny. Yn dilyn rôl ryngwladol fel pennaeth llywodraethu i Standard Chartered Bank, mae Ruth wedi dychwelyd i Gastell-nedd lle mae’n canolbwyntio ar yrfa anweithredol gyda sefydliadau sydd â diben cymdeithasol.