Neidio i'r prif gynnwy
Marian Wyn Jones

Aelod Annibynol

Digital Health and Care Wales

Amdanaf i

Aelod Annibynol

Mae Marian Wyn Jones yn gyn-Bennaeth Canolfan y BBC yng ngogledd Cymru. Cafodd Marian, sy’n newyddiadurwraig a gwneuthurwr ffilmiau dogfen arobryn, yrfa lwyddiannus ym maes darlledu cyn datblygu gyrfa bortffolio fel Cyfarwyddwr Anweithredol ac Ymgynghorydd Cyfathrebu.  

Mae wedi dal nifer o rolau Anweithredol er 2010 ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Cyngor Prifysgol Bangor, y fenyw gyntaf i gael ei phenodi i’r rôl hon yn y 137 mlynedd ers ei sefydlu. Mae’n Ymddiriedolwr ac yn Is-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, a chyn hynny bu’n Is-gadeirydd ac yn Aelod Annibynnol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

Ochr yn ochr â’i chyfraniad i faes Darlledu a Chyfathrebu, mae gan Marian brofiad helaeth fel arweinydd strategol ym maes polisi a rheoleiddio, a hynny yn ystod ei rolau blaenorol fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd y Darlledwr Cymraeg, S4C, ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.  

Cafodd ei magu yng nghanolbarth Cymru ac mae’n siaradwr Cymraeg brodorol.