Neidio i'r prif gynnwy
Helen Thomas

Prif Weithredwr

Amdanaf i

Prif Weithredwr

Mae Helen yn Brif Swyddog Gweithredol Iechyd a Gofal Digidol Cymru ers 2021, gan arwain ymateb trawiadol y sefydliad i bandemig Covid-19, gan gefnogi GIG Cymru i fabwysiadu datblygiadau data a digidol ar gyflymder a graddfa.

Arweiniodd Helen y sefydliad hefyd drwy ei drawsnewidiad i Awdurdod Iechyd Arbennig ar 1 Ebrill 2021, gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaethau digidol a data cenedlaethol i GIG Cymru.

Mae Helen yn gweithio i’r GIG ers dros 30 mlynedd, gan weithio ym maes cyllid i ddechrau, cyn symud i faes gwybodaeth iechyd yn 2000. Mae hi wedi ennill profiad eang mewn gwybodeg iechyd ar draws nifer o uwch rolau dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae hi wedi arwain trawsnewid digidol i ddarparu gofal mwy effeithiol a mwy diogel.

Enwyd Helen yn Brif Swyddog Gweithredol GIG Digidol y flwyddyn yn 2021 ac mae ganddi radd MSc mewn Gwybodeg Iechyd o Brifysgol Abertawe. Mae hi’n ymarferydd blaengar Ffederasiwn Gweithwyr Proffesiynol Gwybodeg, yn gymrawd Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain ac yn Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Yn ei chyfnod fel Prif Swyddog Gweithredol, mae Helen wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth arwain IGDC, nid yn unig o ran darparu gwasanaethau digidol a data mawr i bartneriaid y GIG, ond o ran dod yn sefydliad cefnogol a chynhwysol ac mae hi’n angerddol am fod yn fodel rôl i staff.

Mae Helen yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi cymunedau a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl gan drawsnewid digidol. Fel rhan o’i hymrwymiad i hyn, mae Helen yn cadeirio grŵp cynhwysiant digidol IGDC sy’n edrych ar sut mae’r sefydliad yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi’r rhai efallai nad oes ganddynt y sgiliau na’r mynediad i elwa o newid digidol.